YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 1

1
Elcana a'i Deulu yn Seilo
1Yr oedd gŵr o Ramathaim yn ucheldir Effraim, un o linach Suff, o'r enw Elcana fab Jeroham, fab Elihu, fab Tochu, fab Suff, Effratead. 2Yr oedd ganddo ddwy wraig, a'u henwau'n Hanna a Pheninna; yr oedd plant gan Peninna ond nid gan Hanna. 3Bob blwyddyn byddai'r gŵr hwn yn mynd i fyny o'i dref i addoli ac offrymu aberth i ARGLWYDD y Lluoedd yn Seilo, lle'r oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. 4Bob tro yr oedd Elcana'n offrymu, byddai'n rhannu darnau o'r offrwm i'w wraig Peninna ac i bob un o'i bechgyn a'i merched; 5ond un darn a roddai i Hanna, er mai hi a garai, am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. 6Byddai ei chyd-wraig yn ei phoenydio'n arw i'w chythruddo am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. 7Dyma a ddigwyddai bob blwyddyn pan âi i fyny i dŷ'r ARGLWYDD; byddai'n ei phoenydio a hithau'n wylo a gwrthod bwyta, 8er bod ei gŵr Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam yr wyt ti'n wylo a gwrthod bwyta? Pam yr wyt yn torri dy galon? Onid wyf fi'n well i ti na deg o feibion?”
Hanna ac Eli
9Ar ôl iddynt fwyta ac yfed yn Seilo, cododd Hanna; ac yr oedd yr offeiriad Eli yn eistedd ar gadair wrth ddrws teml yr ARGLWYDD. 10Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl. 11Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.” 12Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau. 13Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed. 14Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.” 15Atebodd Hanna, “Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn. 16Paid â'm hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghŵyn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau.” 17Atebodd Eli, “Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo.” 18Dywedodd hithau, “Bydded imi gael ffafr yn dy olwg.” Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist.
Geni a Chysegru Samuel
19Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn ôl adref i Rama. 20Cafodd Elcana gyfathrach â'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: “Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano.”
21Aeth y gŵr Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned. 22Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gŵr, “Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth.” 23Dywedodd ei gŵr Elcana wrthi, “Gwna'r hyn sydd orau yn d'olwg; aros nes y byddi wedi ei ddiddyfnu, ond bydded i'r ARGLWYDD gyflawni d'addewid#1:23 Felly Groeg. Hebraeg, ei addewid..” Felly arhosodd y wraig gartref a magu ei phlentyn nes ei ddiddyfnu. 24Wedi iddi ei ddiddyfnu, aeth ag ef i fyny gyda hi a chymryd ych teirblwydd#1:24 Felly Groeg. Hebraeg, tri ych. ac effa o flawd a chostrel o win. Daeth ag ef yn fachgen ifanc i dŷ'r ARGLWYDD yn Seilo. 25Wedi iddynt ladd yr ych, daethant â'r llanc at Eli, 26a dywedodd hi, “Henffych well, syr! Myfi yw'r wraig oedd yn sefyll yma yn d'ymyl yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. 27Am y bachgen hwn yr oeddwn yn gweddïo, a rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r hyn a ofynnais ganddo. 28Yr wyf finnau'n ei fenthyg i'r ARGLWYDD am ei oes. Un wedi ei fenthyg i'r ARGLWYDD yw.” Ymgrymasant yno o flaen yr ARGLWYDD.

Currently Selected:

1 Samuel 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy