Job 1:20-22
Job 1:20-22 BNET
Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo’i ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â’i wyneb ar lawr, a dweud: “Ces i fy ngeni heb ddim, a bydda i’n marw heb ddim. Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi, a’r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i. Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei foli!” Er gwaetha’r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi’r bai ar Dduw.





