1 Corinthiaid 12
12
A.D. 59. —
1 Bod amryw ddoniau ysbrydol, 7 eithr y cwbl er llesâd: 8 ac o ran hynny hwy a gyfrennir mewn amryw foddion. 12 Megis y mae aelodau y corff naturiol yn gwasanaethu bob un 16 er harddwch i’w gilydd, 22 er gwasanaeth 26 a chymorth i’r un corff; 27 felly yr un modd y dylem ni wneuthur y naill er y llall, er mwyn gorffen dirgel gorff Crist.
1Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod. 2Chwi a wyddoch #Eff 2:11, 12; 1 Thess 1:9mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y’ch tywysid. 3Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, #Marc 9:39; 1 Ioan 4:2, 3nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn #12:3 anathema.ysgymunbeth: ac #2 Cor 3:5ni all neb ddywedyd #12:3 mai Iesu yw yr Arglwydd.yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân. 4Ac #Rhuf 12:4 &c; Heb 2:4; 1 Pedr 4:10y mae amryw ddoniau, eithr #Eff 4:4yr un Ysbryd. 5Ac #Rhuf 12:6, 7, 8; Eff 4:11y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd. 6Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un #12:6 Neu, Duw yw yr, & c.yw Duw, #Eff 1:23yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb: 7Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. 8Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd; 9Ac i arall #Mat 17:19; Pen 13:2ffydd, trwy’r un Ysbryd; ac i arall #Marc 16:18; Iago 5:14#12:9 doniau.ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd; 10Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, #Act 2:4 amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau. 11A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, #Pen 7:7; 2 Cor 10:13gan rannu i bob un o’r neilltu #Ioan 3:8; Heb 2:4megis y mae yn ewyllysio. 12Canys #Rhuf 12:4; Eff 4:4, 16fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae #Gal 3:16Crist hefyd. 13Oherwydd #Rhuf 6:5trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, #Gal 3:28; Eff 2:13, 14, 16; Col 3:11pa un bynnag ai Iddewon ai #12:13 Cenhedloedd.Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac #Ioan 6:63 ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd. 14Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. 15Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? 16Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? 17Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? 18Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. 19Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff? 20Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff. 21Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. 22Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol: 23A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch. 24Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd‐dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol: 25Fel na byddai #12:25 sgism.anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. 26A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd‐ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau. 27Eithr #Rhuf 12:5; Eff 1:23; 4:12; 5:23, 30; Col 1:24chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran. 28A #Eff 4:11rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, #Eff 2:20yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, #Rhuf 12:8; 1 Tim 5:17; Heb 13:17, 24llywodraethau, #12:28 amrywiaethau.rhywogaethau tafodau. 29Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai #12:29 Neu, nerthoedd.gwneuthurwyr gwyrthiau pawb? 30A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu? 31Eithr #Pen 14:1, 39deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.
Valgt i Øjeblikket:
1 Corinthiaid 12: BWM1955C
Markering
Kopiér
Sammenlign
Del
Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society