Ioan 8
8
1A fe âth bobun ohyn nhwy getre; ond fe âth Iesu i Fini'r Llwyn Olifs. 2A'n ginnar in i bore, âth i'r demel shwrne to. Dâth i boboli gyd ato fe; a ishteddodd e lawr a dachre'u disgu nhwy. 3Dâth i Ffariseied a'r rhei we'n disgu'r Gifreth â menyw we wedi câl i dala in godinebu. Rhoion nhwy hi i sefyll rhinto nhwy'u hunen a Iesu, 4a gwedon nhwy wrtho fe, “Mishtir, ma'r fenyw 'ma wedi câl i dala in godinebu. 5Ma Cifreth Moses in gweud dile hi gâl i lladd wrth dowlu cerrig ati hi. Beth wit ti'n gweud?” 6Wedon nhwy hyn er mwyn i brofi fe, fel u bo nhwy in galler dod â rhwbeth in i erbyn e. Ond i cifan nâth Iesu we pligu lawr a reito ar i ddeiar gyda'i fys. 7Ond gadwon nwy mlân i holi, a in i diwedd 'co Iesu in sefyll lan a gweu 'thyn nhwy, “Gadwch i un o chi sy heb bechod dolwu'r garreg ginta ati hi.” 8A pligodd e lawr a dachre reito ar i ddeiar shwrne 'to. 9Pan gliwon nhwy hyn ethon nhwy mas un wrth un in dachreu gida'r dinion hena, a gâs e i adel ar ben i unan 'da'r fenyw lle wedd i. 10Safo Iesu a gweu 'thi hi, “Fenyw, ble mân nhwy? Sdim un ohnyn nhwy wedi di gondemno di?” 11Gwedodd hi, “Dim un, Mishtir.” A gwedo Iesu, “Sena i in di gondemno di whaith. Cer, a paid pechu 'to.”
Ma'r pethe ma Iesu'n gweud in wir
12Shwrne 'to sharado Iesu gida nhwy a gweud, “Fi yw gole'r byd. Sneb sy'n in ddilyn i in mynd i gered in i tewillwch, ond in gole bowid.” 13Gwedo'r Ffariseied wrtho fe, “Ti sy'n gweud 'na am di unan; a seno'r pethe wit ti'n gweud am di unan in wir.” 14Atebo Iesu nhwy, “Hyd 'n ôd os gweud am in unan wdw i, mae'r peth dwi'n gweud in wir, achos dw‐i'n gwbod o ble dw‐i wedi dod a ble dw i'n mynd; ond senoch chi'n gwbod o ble dw i'n dod, na i ble dw i'n mynd. 15Ŷch chi'n barnu popeth fel dinion; sena i'n barnu. 16A hyd 'n ôd os dw i'n barnu, bidda i'n neud ni'n iawn, achos sena i ar ben in unan. Ma'r Tad nâth in hala i gida fi. 17In ich Cifreth chi mae'n gweud fod gair dou ddyn in wir. 18Fi yw'r un sy'n sharad dros in unan, a'r Tad nâth in hala i yw'r un sy'n sharad amdana i.” 19Gwedon nhwy wrtho, “Ble ma di dad?” Atebo Iesu, “Senoch chi in in nabod i na'n nabod in Dad. Os bysech chi'n in nabod i, bysech chi'n nabod in Dad 'fyd.” 20Gwedodd e'r geire 'ma pan wedd e in i lle casglu, a'n disgu in i demel. Nâth neb i aresto fe, achos wedd i awr e ddim wedi dod 'to.
21Gwedodd e wrthyn nhwy shwrne 'to, “Dw i'n mynd bant, a biddwch chi'n whilio amdana, ond biddwch chi'n marw in ich pechod. Achos lle dw i'n mynd, allwch chi ddim dod.” 22Gwedo'r Iddewon, “Ody e'n mynd i ladd i unan, achos mae e'n gweud, 'Lle dw i'n mynd, allwch chi ddim dod'?” 23Gwedodd e wrthyn nhwy, “Ŷch chi'n dwâd o lawr; dw i'n dod o lan. Ŷch chi'n perthyn i'r byd 'ma; sena i'n perthyn i'r byd 'ma. 24'Na pam dw i wedi gweu 'thoch chi biddwch chi'n marw in ich pechode; achos senoch chi'n credu taw 'Fi yw e', wedyn biddwch chi'n marw in ich pechode.” 25So wedon nhwy wrtho fe, “Pwy wit ti” Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Pam dw i sharad 'da chi o gwbl? 26Ma lot o bethe 'da fi weud amdanoch chi, sawl barn 'da fi roi; ond ma'r un nâth in hala i in real, a dw i'n gweu 'th i byd beth dw i wedi cliwed wrtho fe.” 27Wen nhwy ddim in gwbod i fod e'n sharad wrthyn nhwy am i Tad. 28Gwedo Iesu, “Pan godwch chi Grwt i Dyn lan, wedyn biddwch chi gwbod taw 'Fi yw e, a biddwch chi'n gwbod fi bo fi ddim in neud dim byd drw'n gomands in unan, ond wi'n gweud i pethe 'ma fel ma'r Tad wedi'n ddisgu i. 29A ma'r un sy wedi'n hala i gida fi. Seno fe wedi'ng ngadel i ar ben in unan, achos dw i wastad in neud beth sy wrth i fodd e.” 30Wrth'o sharad credodd pŵer indo fe.
Plant Abraham
31Gwedo Iesu wrth ir Iddewon we wedi credu indo fe, “Os cadwch chi mlân in ing ngair, wedi ŷch chi'n ddisgiblion iawn i fi; 32a biddwch chi'n gwbod i gwir; a bydd i gwir in ich neud chi'n rhydd.” 33Atebon nhwy e, “Ŷn ni'n dilwith i Abraham, a senon ni wedi bod in gaethweishon i neb. Shwt wedyn weth wit ti'n gweud, 'Biddwch chi'n câl ich neud in rhydd'?” 34Atebo Iesu nhwy, “Wi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma unrhiw un sy'n pechu in gaethwas pechod. 35Seno'r caethwas in aros in i tŷ am byth; ma'r mab in aros am byth. 36Wedyn 'te, os yw'r Mab in ich neud chi'n rhydd, ŷch chi'n rhei rhydd. 37Dw i'n gwbod in iawn taw tilwith Abrham ŷch chi; ond ŷch chi'n treial ffindo ffordd in ladd i, achos sdim lle 'da chi ing ngair i. 38Dw i'n gweu 'thoch-chi beth weles i pan wen i gida'n Dad; ond ŷch chi'n neud beth gliwoch chi wrth ich tad.”
39Atebon nhwy e, “Ma Abraham in dad i ni.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Os bisech chi'n blant i Abraham bisech chi'n neud beth bise Abraham in i neud. 40Fel ma i, treial in ladd i ŷch chi, dyn sy wedi gweud i gwir a gliwodd e 'da Duw wrthoch chi. Nâth Abraham ddim byd tebyg. 41Ŷch chi'n neud gwaith ich tad chi.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Senon ni'n rhei sy heb dade; Duw, a dim ond Duw, yw in Tad ni.”
Plant i jawl
42Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Os Duw fise'n Dad i chi, wedyn bisech chi in ing garu i, achos dw i wedi dwâd wrth Dduw, a nawr dw i fan 'yn. Achos sena i wedi dod trw'n gomands in unan, ond trw gomands ir un nâth in hala i. 43Pam senoch chi'n diall beth dw i'n gwud? — achos bo chi ddim in galler grondo ar in neges i. 44Ŷch chi'n dod wrth ich tad, i jawl, a ŷch chi ishe neud pethe sy'n dod ŷch chi neud wrth ich tad. Wedd e'n lladd o'r dachre. Sdim byd mae e'n neud in dod in agos i'r gwir, achos sdim gwir indo fe. Pan mae e'n gweud peth celwiddog mae e'n sharad in gowir fel shwt un yw e, achos clewyddgi a tad twyll yw e. 45Ond wi'n gweud i gwir, a 'na pam ŷch chi ddim in credu inda i. 46P'un o chi sy'n mynd in gâl gafel miwn pechod inda i? Os dw i'n gweud i gwir pan senoch chi'n credu inda i? 47Mae'r un sy'n dod wrth Dduw in grondo ar eirie Duw. Ŷch chi ddim in grondo achos bo chi ddim in dod wrth Dduw.”
Iesu'n gweud pethe mowr amdano'i unan
48Atebo'r Iddewon e, “Senon ni'n iawn i weud taw Samariad wit ti a bod cithrel 'da ti?” 49Atebo Iesu, “Sdim cithrel 'da fi, ond wi'n parchu'n Dad, a senoch chi in in barchu i. 50Sena i'n whilio am ogoniant; ond ma 'na un sy'n whilio amdano a'n barnu. 51Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, os neith riwun gadw ing ngair i neith e byth farw.” 52Gwedo'r Iddewon wrtho fe, “Ŷn ni'n gwbod in iawn nawr bo cithrel 'da ti. Marwo Abraham, a'r proffwydi, a wedyn weth wit ti'n gweud, 'Os neith riwun gadw ing ngair i neith e byth farw.’ 53Wit ti'n fwy na Abraham in tad ni, nâth farw? Marwo'r proffwydi 'fyd. Pwy wit ti'n treial gweud wit ti?” 54Atebo Iesu, “Os dw i'n rhoi gogoniant i'n unan, sdim gwerth in ogoniant i. I Tad sy'n rhoi gogoniant i fi, ac amdano fe ŷch chi'n gweud, 'Fe yw in Duw ni.” 55Ond wedyn wêth senoch chi'n i nabod e, ond dw i'n i nabod e; os bisen i'n gweud bo fi ddim in i nabod e bisen i'n gweud celwy, jwst fel chi; ond dw i in i nabod e a dw i'n cadw i air e. 56We Abraham, ich tad chi, wrth i fodd in weld in ddydd i'n dod; gwelodd e'r dydd a wedd e'n falch.” 57Gwedo'r Iddewon wrtho, “Seno ti'n hanner cant 'to, a wit ti wedi gweld Abraham?” 58Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, cyn i Abraham gâl i eni, 'Dw i' in bod, a fi yw e.” 59Codon nhwy gerrig in barod i dowlu ato fe, ond âth Iesu i gwato, a mynd mas o'r demel.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies