Ioan Marc 9:42-50

Ioan Marc 9:42-50 CJW

Ond pwybynag á faglo un o’r rhai bychain à gredant ynof fi, gwell fyddai iddo pe rhwymid maen melin wrth ei wddf, a’i daflu i’r môr. Hefyd, os dy law á’th fagla, tor hi ymaith; gwell i ti fyned i fewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gènyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy, lle nad yw eu pryf hwynt yn marw, na’u tân yn diffodd. Ac os dy droed á’th fagla, tòr ef ymaith; gwell yw i ti fyned i fewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed genyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy, lle nad yw eu pryf hwynt yn marw na’u tân yn diffodd. Ac os dy lygad á’th fagla, tỳn ef allan; gwell yw i ti fyned i fewn i deyrnas Duw yn unllygeidiog, nag â dau lygad genyt, dy daflu i dân uffern, lle nad yw eu pryf hwynt yn marw, na’u tân yn diffodd. Canys pob un á helltir â thân, fel yr helltir pob aberth â halen. Da yw halen; ond os aiff yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltwch ef? Bid gènych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â’ch gilydd.

ተዛማጅ ቪዲዮዎች