Ioan Marc 9:38-41
Ioan Marc 9:38-41 CJW
Yna Ioan á ddywedodd wrtho, Rabbi, ni á welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dylyn ni; a ni á waharddasom iddo, am nad yw yn ein dylyn ni. Iesu á atebodd, Na waherddwch iddo; oblegid nid oes neb à wna wyrth yn fy enw i, à all yn ebrwydd ddweyd yn ddrwg am danaf. Canys pwybynag nid yw yn eich herbyn, o’ch tu chwi y mae. Oblegid pwybynag á roddo i chwi iddei hyfed gwpanaid o ddwfr èr fy mwyn i, am eich bod yn perthyn i Grist; yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, ni chyll efe ei obr.

