Ioan Marc 9:14-27

Ioan Marc 9:14-27 CJW

Gwedi iddo ddychwelyd at y dysgyblion ereill, efe á welai dyrfa fawr o’u hamgylch, a rhyw ysgrifenyddion yn dadleu â hwynt. Cygynted ag y gwelodd y bobl ef, tarawyd hwynt oll ag arswyd, a hwy â redasant iddei gyfarch ef. Ac efe á ofynodd i’r ysgrifenyddion, Am ba beth yr ydych yn dadleu â hwynt? Un o’r bobl gàn ateb, á ddywedodd, Rabbi; mi á ddygais fy mab atat, yr hwn sydd ag ysbryd mud ynddo; a llebynag y mae yn gafaelu ynddo, y mae yn ei daro yn erbyn y llawr, lle yr erys efe yn ewynu ac yn ysgyrnygu ei ddannedd, nes y byddo gwedi dihoeni. A mi á ddywedais wrth dy ddysgyblion am fwrw y cythraul allan, ond ni allent hwy. Yna y dywedodd Iesu, O genedlaeth annghrediniol! pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi. Yn ganlynol hwy á’i dygasant ef: a chygynted ag y gwelodd efe ef, yr ysbryd á’i taflodd ef mewn dirgryniadau, nes oedd yn malu ewyn ac yn ymdreiglo àr y llawr. Iesu á ofynodd i’r tad, Pa faint o amser sydd èr pan ddygwyddodd hyn gyntaf iddo? Yntau á atebodd, Er yn blentyn; a mynych y taflodd efe ef i’r tân ac i’r dwfr, èr ei ddyfetha ef; ond os gelli wneuthur rhyw beth, tosturia wrthym, a chymhorth ni. Iesu á atebodd, Os medri di gredu, pob peth á all fod i’r neb á gredo. Yn y fàn Tad y bachgen gàn lefain, á ddywedodd dàn wylo, Yr wyf fi yn credu; Feistr, cyflawna di ddiffygion fy ffydd. Pan welodd Iesu bod y bobl yn dylifo ato, efe á geryddodd yr ysbryd aflan, gàn ddywedyd wrtho, Ysbryd mud a byddar, dyred allan o hono, yr wyf yn gorchymyn i ti, a na ddos iddo ef mwyach. Yna gwedi iddo grochlefain, a’i ddirgrynu ef yn dost, efe á ddaeth allan, a’r bachgen á ymddangosai fel un marw, fel y dywedodd llawer, Y mae efe gwedi marw. Ond Iesu gan ei gymeryd ef erbyn ei law, á’i cyfododd ef, ac efe á safodd i fyny.

ተዛማጅ ቪዲዮዎች