Ioan Marc 7:1-13

Ioan Marc 7:1-13 CJW

A’r Phariseaid a rhyw Ysgrifenyddion à ddaethent o Gaersalem, á gyrchasant at Iesu. A gwedi canfod rhai o’i ddysgyblion ef yn bwyta â dwylaw anmhur, hyny yw, heb eu golchi; (canys nid oedd y Phariseaid, nac yn wir yr holl Iuddewon à gadwent draddodiad yr henuriaid, yn bwyta nes y golchent eu dwylaw drwy dywallt ychydig ddwfr arnynt; ac os byddent wedi dyfod o’r farchnad, drwy eu trochi; ac y mae llawer o ddefodau ereill wedi eu cymeryd i fyny ganddynt, megys trochiadau cwpanau a photiau, efyddynau a gwelỳau;) yna y Phariseaid a’r ysgrifenyddion á ofynasant iddo Beth yw yr achos nad yw dy ddysgyblion di yn cadw traddodiad yr henuriaid, ond yn bwyta â dwylaw heb eu golchi? Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, O ragrithwyr! da yr ydych yn ateb i’r nodwedd à roddes Isaia i chwi, pàn ddywedodd, “Y bobl hyn á’m hanrhydeddant â’u gwefusau, ond eu calon sy gwedi ymddyeithro oddwrthyf. Ond yn ofer yr addolant fi, tra y maent yn dysgu sefydliadau nad ydynt ond dynol yn unig.” O herwydd, gàn adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dàl traddodiadau dynion, trochiadau potiau a chwpanau, a llawer o ymarferion ereill cyffelyb. Gwych yr ydych yn barnu, meddai efe, drwy ddiddymu gorchymyn Duw, i wneuthur lle i’ch traddodiadau eich hunain. Canys dywedodd Moses, “Anrhydedda dy dad á’th fam,” a “Pwybynag á ddifenwo dad neu fam, á gosbir â marwolâeth.” Ond yr ydych chwi yn dàl, os dywed dyn wrth dad neu fam, “Corban fyddo (hyny yw, diofrydedig) bethbynag o’r eiddof á wna les i ti;” ni raid iddo o hyny allan wneuthur dim iddei dad neu ei fam; fel hyn yn dirymu gair Duw, drwy y traddodiad à osodasoch i fyny. A mewn llawer o bethau ereill yr ydych yn gwneuthur fel hyn.

ተዛማጅ ቪዲዮዎች