Ioan Marc 6:1-13
Ioan Marc 6:1-13 CJW
Iesu gwedi gadael y lle hwnw, á aeth iddei wlad ei hun, a’i ddysgyblion á’i canlynasant ef. Ac efe á ddysgai àr y Seibiaeth yn eu cynnullfëydd, a llawer à’i clywsant á ddywedasant gyda syndod, O ba le y mae gàn hwn y galluoedd yma? Pa ddoethineb yw hwn à gafodd efe? a pha fodd y gwneir y fath wyrthiau ganddo ef? Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iägo a Ioses, a Iuwdas a Simon? Onid yw ei chwiorydd hefyd yma gyda ni? A hwy á dramgwyddasant wrtho. Eithr Iesu á ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn cael ei ddiysdyru yn un màn, ond yn ei wlad ei hun, ac yn mhlith ei berthynasau ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. A ni allai efe wneuthur un wyrth yno, oddeithr iachâu ychydig gleifion, drwy osod ei ddwylaw arnynt. Ac efe á ryfeddodd oblegid eu hannghrediniaeth hwynt. Ac efe á aeth drwy y pentrefi cymydogaethol, gàn athrawiaethu. A gwedi galw ato y deuarddeg, efe á’u hanfonodd hwynt allan bob yn ddau, ac á roddes iddynt awdurdod àr yr ysbrydion aflan; ac á orchymynodd iddynt beidio cymeryd dim i’r daith, ond un lawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu gwregys; ond bod â sandalau dàn eu traed, a pheidio gwisgo dwy bais. Efe á ddywedodd hefyd, I ba dŷ bynag yr eloch i fewn yn unrhyw le, aroswch yn y tŷ hwnw, nes y gadawoch y lle. Ond pa le bynag ni ’ch derbyniant, a ni ’ch gwrandawant, ysgydwch ymaith y llwch o dàn eich traed àr eich ymadawiad, fel gwrthdystiad yn eu herbyn. A gwedi iddynt ymadael, hwy á rybyddiasant ddynion yn gyhoeddus i ddiwygio; ac á fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac á iachâasant lawer o gleifion, gàn eu heneinio ag olew.


