Ioan Marc 6:35-44

Ioan Marc 6:35-44 CJW

Gwedi iddi hwyrâu, ei ddysgyblion á ddaethant ato, ac á ddywedasant, Y mae hwn yn lle anial, ac y mae hi yn awr yn hwyr; gollwng ymaith y bobl, fel yr elont i’r tyddynod cymydogaethol a’r pentrefi, a phrynu iddynt eu hunain fara; oblegid nid oes ganddynt ddim iddei fwyta. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Diwallwch hwynt eich hunain. Hwythau á atebasaut, A awn ni a rhoddi dau gann ceiniog am fara, èr ei diwallu hwynt? Yntau á ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sy gènych? Wedi gwybod, hwy á atebasant, Pump, a dau bysgodyn. Ac efe á orchymynodd iddynt beri i’r holl bobl ledorwedd yn fyrddeidiau àr y glaswellt. A hwy a ffurfiasant eu hunain yn bedrorau, o fesur cantoedd a phumdegau. Yna y cymerodd Iesu y pumm torth a’r ddau bysgodyn, a chàn edrych i fyny tua ’r nef, á fendithiodd ac á dòrodd y torthau, ac á’u rhoddes iddei ddysgyblion, èr eu gosod o flaen y tyrfëydd. Efe á rànodd y ddau bysgodyn hefyd rhyngynt oll. Wedi iddynt oll fwyta, a chael eu digoni, hwy á ddygasant ymaith ddeg a dwy fasgedaid o weddillion y bara a’r pysgod. A’r rhai à fwytasent o’r torthau oeddynt bumm mil o wŷr

ተዛማጅ ቪዲዮዎች