Ioan Marc 6:1-5

Ioan Marc 6:1-5 CJW

Iesu gwedi gadael y lle hwnw, á aeth iddei wlad ei hun, a’i ddysgyblion á’i canlynasant ef. Ac efe á ddysgai àr y Seibiaeth yn eu cynnullfëydd, a llawer à’i clywsant á ddywedasant gyda syndod, O ba le y mae gàn hwn y galluoedd yma? Pa ddoethineb yw hwn à gafodd efe? a pha fodd y gwneir y fath wyrthiau ganddo ef? Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iägo a Ioses, a Iuwdas a Simon? Onid yw ei chwiorydd hefyd yma gyda ni? A hwy á dramgwyddasant wrtho. Eithr Iesu á ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn cael ei ddiysdyru yn un màn, ond yn ei wlad ei hun, ac yn mhlith ei berthynasau ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. A ni allai efe wneuthur un wyrth yno, oddeithr iachâu ychydig gleifion, drwy osod ei ddwylaw arnynt. Ac efe á ryfeddodd oblegid eu hannghrediniaeth hwynt.

ተዛማጅ ቪዲዮዎች