Ioan Marc 4:26-29
Ioan Marc 4:26-29 CJW
Efe á ddywedodd drachefn, Y mae teyrnas Duw fel had, yr hwn á heuodd dyn yn ei faes. Tra y cysgai y nos, ac y deffroai y dydd, yr had á eginodd heb iddo sylwi arno. Canys y mae y ddaiar yn dwyn o honi ei hun, yn gyntaf yr eginyn, yna y dwysen; wedi hyny yr ŷd llawn. Ond cygynted ag yr addfedodd yr ŷd, efe á roddes y cryman ynddo, am ei bod yn amser ei fedi.

