Psalmau 127

127
Y CXXVII. Psalm. Byrr a thoddaid.
1Dvw arglwydh o rwydh wiw ras da olud
Oni adeila ygwnn-blas:
Ail oferwaith i lafur-was
Dwl pwl iawn geisio adail plas.
A Duw om wilia ’r dinas
Oferwr gwiliwr a ffob gwas:
Duw yw ’n gwiliwr gwr ae guras gadain
Duw a geidw bawb adhas.
2Ofer hir gwelir gwilio o berigl
Yn y borau heb hûno:
Hir arw ffusig hwyr orffwyso,
A thrwy ofal o thyrr efo
A bwyta i fara drwy lafurio.
Athro gwirion a thrwy gurio
Fo rydh hûn i hun heno iôr downus
I ’r dynion ae karo.
3Rhad yr arglwydh rwydh rodhion ae garn
Yt fedhu etifedhion:
Gobrwy Duw nêr gwiwbryd vnion
Yw ffrwyth y grôth hoff wiriaith gronn
4Ail nerth breichiau saethau sythion.
Delai krafank dwylaw kryfion.
I’r bŷd yw mebyd meibion yfienctid
Da i gwelid dêg wiw-lonn.
5Mawr gyflwrir gwr o gariad lownwaith
A lanwo i gwifr gwastad:
Dyna saethau downus wthiad
I gyfion brau rhag ofni brad.
Deled mewn trin drablin drwbliad
Dewys arwydh o daw siarad:
Ni bydh kywilydh mewn kâd neu gilio
Rag gelyn ae afrad.

Okuqokiwe okwamanje:

Psalmau 127: SC1595

Qhakambisa

Kopisha

Qhathanisa

Dlulisela

None

Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume