YouVersion 標識
搜索圖示

Genesis 2

2
Duw yn gorffwys ar y seithfed diwrnod
1Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo.
2Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. 3Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a’i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna’r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.
Gardd Eden
4Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu:
Pan wnaeth Duw y bydysawd, 5doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. 6Ond roedd dŵr yn codi o’r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir.
7Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. 8Yna dyma’r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua’r dwyrain, yn Eden, a rhoi’r dyn roedd wedi’i siapio yno. 9Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o’r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i’w bwyta.
Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy’n rhoi bywyd a’r goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.
10Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio’r ardd. Wedyn roedd yn rhannu’n bedair cangen. 11Pison ydy enw un. Mae hi’n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur 12– aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd. 13Gihon ydy enw’r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. 14Tigris ydy enw’r drydedd afon. Mae hi’n llifo i’r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw’r bedwaredd afon.
15Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani. 16A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, 17ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.”
18Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i’r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.” 19A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o’r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai’n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. 20Rhoddodd enwau i’r anifeiliaid, i’r adar, ac i’r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i’w gynnal.
21Felly dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i’r dyn gysgu’n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. 22Wedyn dyma’r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o’r darn oedd wedi’i gymryd o’r dyn, a dod â hi at y dyn. 23A dyma’r dyn yn dweud,
“O’r diwedd! Un sydd yr un fath â fi!
Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd.
‘Dynes’ fydd yr enw arni,
am ei bod wedi’i chymryd allan o ddyn.”
24Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.
25Roedd y dyn a’i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.

目前選定:

Genesis 2: bnet

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入

YouVersion 使用 cookie 來個性化你的體驗。透過使用我們的網站,你即接受我們按照我們的 隱私政策所述來使用 cookie。