1
Ioan 15:5
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
BCNDA
Myfi yw'r winwydden; chwi yw'r canghennau. Y mae'r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim.
對照
Ioan 15:5 探索
2
Ioan 15:4
Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi.
Ioan 15:4 探索
3
Ioan 15:7
Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fe'i rhoddir ichwi.
Ioan 15:7 探索
4
Ioan 15:16
Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy'n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i.
Ioan 15:16 探索
5
Ioan 15:13
Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.
Ioan 15:13 探索
6
Ioan 15:2
Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.
Ioan 15:2 探索
7
Ioan 15:12
Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi.
Ioan 15:12 探索
8
Ioan 15:8
Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi.
Ioan 15:8 探索
9
Ioan 15:1
“Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r gwinllannwr.
Ioan 15:1 探索
10
Ioan 15:6
Os na fydd rhywun yn aros ynof fi, caiff ei daflu i ffwrdd fel y gangen ddiffrwyth, ac fe wywa; dyma'r canghennau a gesglir, i'w taflu i'r tân a'u llosgi.
Ioan 15:6 探索
11
Ioan 15:11
“Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i'm llawenydd i fod ynoch, ac i'ch llawenydd chwi fod yn gyflawn.
Ioan 15:11 探索
12
Ioan 15:10
Os cadwch fy ngorchmynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
Ioan 15:10 探索
13
Ioan 15:17
Dyma'r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd.
Ioan 15:17 探索
14
Ioan 15:19
Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich casáu chwi.
Ioan 15:19 探索
主頁
聖經
計劃
影片