EMAIL: INT: Featured Plans July 2021
Gwneud amser i Orffwys
Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys neu fydd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gyfrannu at y rhai dŷn ni'n eu caru ac at y nodau dŷn ni wedi'u gosod. Gad i ni dreulio'r pum diwrnod nesaf yn dysgu am orffwys a sut y gallwn gynnwys yr hyn dŷn ni wedi'i ddysgu yn ein bywydau.
Pam fod Duw yn fy ngharu?
Cwestiynau - Mae rhain yn codi bob amser yng nghyswllt Duw. Wrth ystyried y gymdeithas sydd yn dwyn cymhariaeth drwy'r adeg dŷn ni’n cael ein hunain yn gofyn, "Pam mae Duw yn fy ngharu?" Neu hyd yn oed, "Sut all Duw fy ngharu?" Yn ystod y cynllun hwn byddi'n dod wyneb yn wyneb â'r hyn sydd gan 26 o ddarnau o'r Beibl i'w ddweud am gariad diamod Duw tuag atat.
1 Corinthiaid
Bydd y cynllun syml hwn yn dy arwain drwy 1 Corinthiaid a byddai'n wych ar gyfer astudiaeth i unigolyn neu grŵp.
Gad i ni ddarllen y Beibl gyda'n gilydd (Gorffennaf)
Rhan 7 o gyfres o 12, mae'r cynllun hwn yn arwain cymunedau drwy'r Beibl cyfan mewn 365 diwrnod. Gwahodda eraill i ymuno wrth i ti ddechrau rhan newydd bob mis. Mae'r cynllun yn gweithio'n dda gyda Beiblau sain - gwranda mewn llai nac 20 munud pob dydd! Mae pob adran yn cynnwys penodau o'r Hen Destament a Newydd a Salmau ar wasgar drwy'r cyfan. Mae rhan 7 yn cynnwys llyfrau 2 Samuel, 1 a 2 Brenhinoedd, a Marc.