Malachi 3:17-18

Malachi 3:17-18 BNET

“Nhw fydd fy mhobl i,” –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus, “fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy’n dod. Bydda i’n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy’n gweithio iddo. Byddwch chi’n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg, rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.