Deuteronomium 8:12-14
Deuteronomium 8:12-14 BCNDA
Pan fyddwch wedi bwyta a chael digon, ac adeiladu tai braf i fyw ynddynt, a phan fydd eich gwartheg a'ch defaid yn cynyddu, a digon o arian ac aur gennych, a'ch holl eiddo yn cynyddu, yna peidiwch ag ymffrostio ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.