Ac wedi iddynt ymgasglu yn nghyd gyda'r Henuriaid, a chynnal cynghor, hwy a roisant arian lawer i'r milwyr, gan ddywedyd, Dywedwch, Ei Ddysgyblion Ef a ddaethant o hyd nos ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. Ac os gwrandewir yr achos hwn o flaen y Rhaglaw, ni a'i darbwyllwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddibryder. A chan gymmeryd yr arian, hwy a wnaethant fel y dysgwyd hwynt. A thaenwyd y gair hwn yn mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.