O dewch, a bendithiwch yr Arglwydd,
Chwi weision yr Arglwydd bob un,
Sy’n sefyll yn nheml yr Arglwydd
Yn gwylio liw nos ar ddi-hun.
O codwch eich dwylo yn y cysegr;
Bendithiwch yr Arglwydd o hyd.
Bendithied ef chwithau o Seion –
Creawdwr y nefoedd a’r byd.