Eseia 11:2-3

Eseia 11:2-3 BNET

Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol, ysbryd strategaeth sicr, ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD. Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i’r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.