Luc 24

24
Atgyfodiad yr Iesu
1A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4A bu, a hwy mewn penbleth am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5Ac wedi iddynt ofni a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, ‘Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? 6Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7gan ddywedyd, “Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.”’ 8A hwy a gofiasant ei eiriau ef.
9A hwy a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10A Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago, a’r gwragedd eraill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau yn unig yn gorwedd, ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
Y Daith i Emaus
13Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i bentref a’i enw Emaus, yr hwn oedd ynghylch saith milltir oddi wrth Jerwsalem. 14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio ac yn wyneptrist?’ 18A’r un ohonynt a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, ‘Ai ti yw’r unig ymdeithydd yn Jerwsalem sydd heb wybod y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?’
19Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Pa bethau?’ Hwythau a ddywedasant wrtho, ‘Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl, 20a’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. 21Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. A heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n syfrdanasant ni, wedi iddynt fod yn fore wrth y bedd. 23A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd; ond ef nis gwelsant.’
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! 26Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant?’ 27A chan ddechrau ar Moses a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl Ysgrythurau y pethau amdano ei hun.
28Ac yr oeddynt yn nesáu i’r pentref lle yr oeddynt yn myned; ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. 29A hwy a’i cymellasant ef yn daer, gan ddywedyd, ‘Aros gyda ni, canys y mae hi yn hwyrhau a’r dydd yn darfod.’ Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef. Ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, ‘Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr Ysgrythurau?’
33A hwy a godasant yr awr honno ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt, 34yn dywedyd, ‘Yr Arglwydd a gyfododd yn wir ac a ymddangosodd i Simon.’ 35A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
Ymddangos i’r Disgyblion
36Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, ‘Tangnefedd i chwi.’ 37Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Paham y’ch trallodir? A phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw. Teimlwch fi, a gwelwch, canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y gwelwch fod gennyf fi.’
40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed. 41Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, ‘A oes gennych chwi yma ddim bwyd?’ 42A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. 43Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.
Esbonio’r Ysgrythurau
44Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth sydd ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi.’ 45Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr Ysgrythurau. 46Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Felly y mae’n ysgrifenedig, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd, 47a phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn. 49Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch. Eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.’
Yr Esgyniad
50Ac efe a’u dug hwynt allan hyd Bethania, ac a gododd ei ddwylo ac a’u bendithiodd hwynt. 51Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr. 53Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Айни замон обунашуда:

Luc 24: BWMTND

Лаҳзаҳои махсус

Паҳн кунед

Нусха

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in