1 Corinthiaid 8

8
A.D. 59. —
1 Bod iddynt ymgadw oddi wrth y bwydydd a offrymir i eilunod. 8, 9 Na ddylem ni gam‐arfer ein rhyddid Cristionogol, i rwystro ein brodyr: 11 eithr ffrwyno ein gwybodaeth â chariad perffaith.
1Eithr #Act 15:20, 29; Pen 10:19am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom #Rhuf 14:14, 22wybodaeth. #Rhuf 14:3, 10Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu. 2Eithr #Gal 6:3; 1 Tim 6:4os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod. 3Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a #Gal 4:9adwaenir ganddo ef. 4Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw #Esa 41:24; Pen 10:19eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un. 5Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,) 6Eithr #Mal 2:10; Eff 4:6i ni nid oes ond un Duw, y Tad, #Act 17:28; Rhuf 11:36o’r hwn y mae pob peth, a ninnau #8:6 iddo ef.ynddo ef; ac #Ioan 13:13; Pen 12:3; Eff 4:5; Phil 2:11un Arglwydd Iesu Grist, #Ioan 1:3; Col 1:16; Heb 1:2trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef. 7Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: #8:7 ond.canys rhai, #Pen 10:28a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, #Rhuf 14:14, 23a halogir. 8Eithr #Rhuf 14:17nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn #8:8 well.helaethach; nac onis bwytawn, #8:8 waeth.yn brinnach. 9Ond #Gal 5:13edrychwch rhag mewn un modd i’ch #8:9 gallu.rhyddid hwn fod #Rhuf 14:13, 20yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid. 10Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod; 11Ac a ddifethir y brawd gwan #Rhuf 14:15, 20trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw? 12A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist. 13Oherwydd paham, #Rhuf 14:21; 2 Cor 11:29os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

1 Corinthiaid 8: BWM1955C

హైలైట్

కాపీ

సరిపోల్చండి

షేర్ చేయి

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి