1 Corinthiaid 6

6
A.D. 59. —
1 Na ddylai y Corinthiaid flino eu brodyr, trwy fyned i’r gyfraith â hwynt; 6 yn enwedig gerbron y rhai di‐gred. 9 Na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw. 15 Bod ein cyrff ni yn aelodau i Grist, 19 ac yn demlau i’r Ysbryd Glân: 16, 17 ac am hynny na ddylid eu halogi.
1A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint? 2Oni wyddoch chwi y barna’r #Salm 49:14; Mat 19:28; Luc 22:30; Dat 2:26; 3:21; 20:4saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf? 3Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn? 4Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys. 5Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr? 6Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred? 7Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. #Diar 20:22; Mat 5:39, 40; Luc 6:29; Rhuf 12:17, 19; 1 Thess 5:15Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled? 8Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr. 9Oni wyddoch chwi #1 Thess 4:6na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: #Pen 15:50; Gal 5:21; Eff 5:5; 1 Tim 1:9; Heb 12:14; Dat 22:15ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, 10Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. 11A #Eff 2:2; Col 3:7; Titus 3:3hyn fu rai ohonoch chwi: #Heb 10:22eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni. 12#Pen 10:23Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn #6:12 anghenraid.llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. 13#Mat 15:17; Rhuf 14:17; Col 2:22, 23Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond #Ad. 19, 20; 1 Thess 4:3i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff. 14Eithr #Rhuf 6:5, 8; 8:11; 2 Cor 4:14Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef. 15Oni wyddoch chwi fod #Pen 12:27; Eff 4:12, 15, 16; 5:30eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw. 16Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys #Gen 2:24; Mat 19:5; Eff 5:31y ddau (medd efe) fyddant un cnawd. 17Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, #Ioan 17:21, 22, 23; Eff 4:4; 5:30un ysbryd yw. 18Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19#Pen 3:16; 2 Cor 6:16Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain? 20Canys #Pen 7:23; Heb 9:12; 1 Pedr 1:18er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

1 Corinthiaid 6: BWM1955C

హైలైట్

కాపీ

సరిపోల్చండి

షేర్ చేయి

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి