1 Corinthiaid 1
1
A.D. 59. —
Ar ôl iddo gyfarch iddynt, a diolch drostynt, 10 y mae efe yn eu hannog i undeb; 12 ac yn beio ar eu hanghytundeb hwy. 18 Bod Duw yn difetha doethineb y doethion, 21 trwy ffolineb pregethu; 26 ac nad yw efe yn galw y doethion, na’r galluog, na’r boneddigion, ond 27, 28 y ffôl, a’r gwan, a’r distadl.
1Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd #Act 18:17Sosthenes, 2At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at #Jwdas 1y rhai #Act 15:9a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, #Rhuf 1:7a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd #2 Tim 2:22yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, #1:2 Neu, sef eu Harglwydd hwy a ninnau.o’r eiddynt hwy a ninnau: 3#2 Cor 1:2; Eff 1:2; 1 Pedr 1:2Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4#Rhuf 1:8Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; 5Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, #Pen 12:8; 2 Cor 8:7mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; 6Megis y cadarnhawyd #Dat 1:2tystiolaeth Crist ynoch: 7Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, #Phil 3:20; Titus 2:13yn disgwyl am #1:7 Neu, ddyfodiad, Col 3:4 ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist: 8#1 Thess 3:13Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd, #Col 1:22; 1 Thess 5:23yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9#Pen 10:13; 1 Thess 5:24; 2 Thess 3:3Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i #1 Ioan 1:3gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni. 10Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, #Rhuf 12:16; 15:5; Phil 2:2; 3:16ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo #1:10 sgismau, Pen 11:18ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn. 11Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi. 12A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, #Pen 3:4bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo #Act 18:24Apolos; minnau yn eiddo #Ioan 1:42Ceffas; minnau yn eiddo Crist. 13A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi? 14Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond #Act 18:8Crispus a #Rhuf 16:23Gaius; 15Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun. 16Mi a fedyddiais hefyd dylwyth #Pen 16:15, 17Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall. 17Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; #Pen 2:1, 4, 13; 2 Pedr 1:16nid mewn doethineb #1:17 geiriau.ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer. 18Canys #1:18 pregethu y groes.yr ymadrodd am y groes, #2 Cor 2:15i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, #Pen 15:2nerth Duw ydyw. 19Canys ysgrifenedig yw, #Job 5:12, 13; Esa 29:14Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf. 20#Esa 33:18Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? #Job 12:17, 20, 24oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? 21#Rhuf 1:20, 21, 28; Edrych Mat 11:25; Luc 10:21Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. 22Oblegid y mae’r #Mat 12:38; 16:1; Ioan 4:48Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb: 23Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, #Mat 11:6; Ioan 6:60, 66i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb; 24Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist #Rhuf 1:16; Pen 2:14gallu Duw, a #Col 2:3doethineb Duw. 25Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion. 26Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, #Ioan 7:48nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd: 27Eithr #Mat 11:25; Iago 2:5Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn; 28A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd: 29#Rhuf 3:27; Eff 2:9Fel na orfoleddai #1:29 pob cnawd.un cnawd ger ei fron ef. 30Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, #Jer 23:5, 6; Ioan 17:19yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth: 31Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, #Jer 9:23, 24; 2 Cor 10:17Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:
1 Corinthiaid 1: BWM1955C
హైలైట్
కాపీ
సరిపోల్చండి
షేర్ చేయి
మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society