1
Jeremeia 8:22
beibl.net 2015, 2024
bnet
Oes yna ddim eli yn Gilead? Oes dim meddyg yno? Felly pam nad ydy briw fy mhobl wedi gwella?
2
Jeremeia 8:4
“Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto? Pan maen nhw’n colli’r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl?
3
Jeremeia 8:7
Mae’r crëyr yn gwybod pryd i fudo, a’r durtur, y wennol a’r garan. Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o’r flwyddyn. Ond dydy fy mhobl i’n cymryd dim sylw o’r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw.
4
Jeremeia 8:6
Dw i wedi gwrando’n ofalus arnyn nhw, a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir. Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi’i wneud; neb yn dweud, “Dw i ar fai.” Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain, fel ceffyl yn rhuthro i’r frwydr.
5
Jeremeia 8:9
Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw’n syfrdan wrth gael eu cymryd i’r ddalfa. Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD – dydy hynny ddim yn ddoeth iawn!