YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau LLYTHYR YR Arch-diacon PRYS

LLYTHYR YR Arch-diacon PRYS
At y Darllenydd ystyriol
Tri pheth a wnaeth, na chyfieithwyd y Salmau bendigaid ar yr un o'r Pedwar Mesur ar hugain.
Un yw, Am na allwn ryfygu clymmu'r Ysgrythyr Sanctaidd ar Fesur cyn gaethed; rhag i mi, wrth geisio cadw'r Mesurau, golli Deall yr Yspryd, ac felly pechu'n erbyn Duw, er mwyn boddloni Dyn.
Yn ail, Y mae Gair Duw i'w ganu mewn Cynnulleidfa sanctaidd o lawer ynghyd; i foliannu Duw yn un Llais, un Feddwl, un Galon; yr hyn a allant ei wneuthur ar y Mesur gwael hwn, ac ni allai ond un ganu Cywydd neu Awdl.
Yn drydydd, Pob Plant, Gweinidogion, a Phobl annysgedig, a ddysgant Bennill o Garol, lle allai ond Ysgolhâig ddysgu Cywydd, neu Gerdd gyfarwydd arall. Ac o achos bod yn berthynol i bob Cristion wybod Ewyllys Duw, a'i foliannu ef; mi a ymadawais â'r Gelfyddyd, er mwyn bod pawb yn rhwymedig i wario ei Dalent at y gorau. Hefyd, nid wyf fi'n cadw mo'r Mesur esmwyth hwn yn gywir ym mhob man, am nad oes dim yn ein Hiaith ni mewn Synwyr i seinio nac i odli â DUW. Am hynny, i roi iddo ef ei ragor a pïoedd y Gerdd, mi a rois amryw Ddipthongau eraill i gyfatteb â'r Gair hwnnw, yn nesaf ag y medrwn.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy