Psalmau 34

34
Y Psalm. XXXIV. Devair hirion
1Diolchaf molaf im oes
Da i minnau Duw einioes:
I fawl fyth or afael fau
Yn gynnar sy yn y genau.
2Am enaid sydh munyd sant
I ganu i gogoniant.
O ryfig fo glyw ’r vfydh
A llyna fab llawen fydh.
3A molwch arglwydh miloedh
Gida mi a gwawd ym oedh.
A chyd fawrygwn a cherdh
I enw towngamp mewn angerdh.
4Keisiais yr arglwydh kysson
Kocliodh Duw klowodh y don.
Om holl ofn amhwyllaw hawdh
Ewir ydyw fom gwaredawdh.
5Edrychant o drachwant draw
Iawn yttoedh rhedan attaw:
Kywilydh ni bydh heb au
Hoen obaith yw hwynebau.
6Kriodh tylawd ond kroe-iaith
Duw oll a wrandawai iaith:
Ag achubodh Duw rhodhwych
Ef oe drallod gorfod gwych.
7-8Ag angel Duw (nag yngan)
Adeilai luestai’n lan,
Oe gylch fab ae amgylch fo
Fwyn afiaeth ae hofn efo.
9I saint gwych sy hwnt i gyd
Ofnwch ef yn wych hefyd.
Ni bydh eistau bodh eusoes
Ar ae hofno efo yw oes.
10Bydh pe glew ar y llew llyn
Yn iebanck eisian a newyn:
Ond y sawl yn dewis swydh
Eurglod a gais yr arglwydh:
Ni wydhai eisiau nodhed
Na dim da er koffa ked.
11Dowch blant rhag dowad ywch bla
Amod im gwrando yma.
Dysga wych oll dasg i chwi
Dyfnwaith yn Duw ae ofni:
12Pa wr a chwenych pa waith
Purffydh a bowyd perffaith:
A daeoni ad waenir
A byd da a bowyd hir,
13Kadw ag rhag drwg y kedwi
Ith geu[d]awd di dafawd di.
Athenau glan ath wyneb
A wnai rhag ofn twyllo neb.
14Gochel y drwg a chlod ri
Gwen dhownus gwna dhaeoni.
Kais hedh[v]veb nid trwch nod trin,
Yoolwg yt a dilin.
15Golwg Duw digilwg dôn
A raunwyd ar yr vnton.
Gwrendy i gri ytti ond teg
Ae glustian mewn gloew osteg.
16Duw ae wyneb dewinaw
Yn erbyn dig oerboen daw:
I dorri kof draw ae kar
Ae dhiwedh ar y dhaear.
17Kofus fo gria ’r kyfton
A Duw Sant a wrendy son:
A gweryd gwafyd nid gau
Trwy wellad oe trallodau.
18Y mae ’r arglwydh rhwydh yw ’r hynt
Ae swydh yn agos vdhynt:
Sydh a chalon bronn ir brig,
Dhiowyll a chystudhiedig.
Ag a achub o gychwyn
Y klaf ysbryd dhybryd dhwyn.
19Mawr yw trallod gormod gwaith
Y kyfion nis kae afiaith:
Duw ae gweryd gloe wbryd glan
O hynn oll heno allan.
20Keidw i esgyrn ond kedair
Ni thorrir vn eithr ar air.
21Malais a ladh melus lon
Anaele ’r anuwiolion.
A fo atgas dhyras dhydh
Durfing ir kyfion derfydh.
22E brynn eneidiau brau oedh
Ior i weision drwy oessoedh:
Ni dherfydh vn kûn y kaid
Oedh orau yndho ymdhiriaid.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Psalmau 34: SC1595

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න