Psalmau 21

21
Y XXI Psalm. Trybedd menaich oferfesur
1Othnerth y brenhin haelwin hwyliyd
A llawen iechyd i llonhychaist.
2A synnai gwelai i lan galon
Wiwdha arwydhion idho a rodhais[t.]
Rodhyd a mynnyd i dhamuniant
Idho ’n hoff welliant dhawn ni phellaist.
3Bendithion haelion dan yr hevlwawr
Y rhowiog flaena wr i rhagflaenaist.
Ag o aur buraur teg yw ’r bwriad
Yw gorun sad koron osodaist:
4Gofynnodh yn rhodh i gyrhaedhyd
Hir fowyd enhyd idho doniaist.
5Ith iechydwriaeth ffraeth y ffrwythani
I wir ogoniant a war genaist.
Vrdhasawl rheidiawl fawr anrhydedh
O rann i fowredh arno a fwriaist
6Fal bendith dichwith yw dy iechyd
Abl yw o ennyd ef a blennaist.
Llawenwych haelwych iawn a hylaw
Ae obaith aelaw byth a wiliaist.
7Gobaith y brenhin Duw ae gwybydh
Yndho ef a fydh mae ’n dha fy ion;
Ah wnn ni lithra wycha vchedh
Oe wir drvgaredh ior de wr g wirion
8I law yn hylaw man i heliodh
Yno a dhilynodh i elynion.
Ae dhehevlaw draw fy vn Duw dri
I dhugas hogi i dhigasogion.
9Ith lid gas odid gosodi
Fal ffwrnais losgi berwi peirion,
Ag oe lid prid bid parod o beth
Yno yw difeth oni deifion.
10Dinystriad i had ar i hedeg
O dhaear dhifreg dhvoer dhwyfron.
Ae ffrwyth ae dyl wyth y diâler
Abl ia wn tynner odhiwrth blant dynion,
11Itherbyn Duw gwynn a dig anial
O dyfu sisial Dyfeisiason.
A mowrdhrwg a gwg yn eu gwegi
Aniwall oesi ni ennillason.
12A hynn yn llinyn er i llenwi
Di ae gwesgeri dy gas geirwon.
Dy fwa eusoes difai oseb,
Parawd yw hwyneb oera dynion.
13Moliant adholiant yt a dhyler
Yn ner derchafer drwy orchafion.
A hynny yn brydferth in Duw nerthawl
Yw allv bo mawl a Duwiawl don.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Psalmau 21: SC1595

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න