Psalmau 19
19
Y Psalm. XIX. Todhaid.
1Traethant ogoniant genau y nefoedh
Idhvw ar gyhoedh ym oedh ior mav,
Ar ffyrfafen nenn wnniau yn berffaith
A dhengys i waith araith orav.
2I dhydh dengys dydh a dydhiav yn lan,
A dysg nos weithian dasg nosweithiav
3Tafod perffaith iaith vwch ieithiav ni bydh
Heb i ieferydh wiwrydh orav.
4Aeth i llin yn flin i flaenav ’r dhaear
A thrwy ’r byd wasgar gwar ae gyrrav.
Aoth i air diwair ìs deav lawen
Gwnaeth bebyll i nen hevlwen olav.
5Fal mab glan allan wellâv o hirbell
Priawd oe stafell ae gafell gav,
Llawenferth oe nerth iawn wyrthiav rhedeg
Ae arf orevdeg yrfa reidiav.
6I fynediad mad amodav allan
O eithaf neflan anian winav.
Ae gwmpas adhas a wydhav ’r bydoedh
Eithaf dyrnnasoedh ydoedh nodav.
Nid oes am einioes mannav i gvdhiaw
Rag i wres dwynaw a braw ior brav.
7Dedhf ner sy dyner dewinav ’n trossi
Ymi a nodi i dhuw eneidiav.
Dysg doethder yn ber heb au ir truan
Ae dysi loew weithian dystiolaethau,
8Llawenfron galon gwilia vnionant
Agyfer weithiant i gyfreithiav.
Gorchymyn Duw gwynn, nid gau a fynnych
I lygad lewych loewgad liwiau.
9Glan i ofn a dofn dafnan byth bythoedh
A bery oessoedh heb awr eisiau.
Ior i farn gadarn ergydiau gwiredh,
gida chytownedh da medh Duw mau.
10Gwell nag aur rhudhaur, rhodhau felynar
A gwell nar todhaur buravr heb au.
Melysach berach borau vwch y val
Na mowlair dal y mel or diliau
11Wyf dhigas dy was dieistau rhybydh
Drwydhynt digerydh dreidhiant gorau.
Bû rad yw keidwad yn kau yn lla wen
Mor wiwber awen mawr obrwyau.
12Pwy wydhai a fai o feiau? kadw trig
Rhag rhai kudhiedig didhig dydhian.
13Kadw dy was dod ras drwy oesau mawr ffrwyth
O ebwch adwyth i bechodau.
Nad vdhynt ar hynt fawrhav draw arnaf
Deirnasu bydhaf fab breifgnaf brau.
Bydhaf weithian lan o dholennau dir
14O Lawer enwir hyloew riniau.
Fymhrynnwr nodhwr yn nydhiau kaled
g wir vndvw gwared gwrando y geirian.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Psalmau 19: SC1595
සළකුණු කරන්න
පිටපත් කරන්න
සසඳන්න
බෙදාගන්න
ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.