Psalmau 14

14
Y Psalm. XIV. Englyn Vnodl Kyrch.
1Dowaid dyn ffol yn dawel
Nid oes Duw, Gwirdhuw dan gel:
Nid oes vn nodais enwir
Dyn yn wir daeoni a wnel.
Y bryntion dhynion lle dhant
Y drwg noeth draw i gwnaethant:
Yw kamwedh o goegedh gau
A maith oessau methassant.
2Duw sy ’n y nef bendefig
A wyl feibion dynion dig
Yn edrych oes gwiwfoes gwych
Dewrwych a gais Duw orig.
3Ar gyfyrgoll aeth yr hollfyd
Bryntion yw ’r gweision i gyd:
Nid oes a wnel dawel dawn
Vn kyfiawn enwog hefyd.
4Oni wyr yr enwiriaid
Bwyta fal bara y baid:
5Fy mhobloedh pleidiodh ae plant
Duw ni alwant dan wiliaid.
6Cynghorion wi[r]ion araith
Y tylodion mwynion maith:
Er ych dirmig dig bob dydh
E wybydh Duw i gobaith.
7Dod iechyd wryd warant,
Rydid o blegid dy blant:
Siacob ag Israel hael hen
Yn llawen yno llywiant.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Psalmau 14: SC1595

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න