Mathew 21

21
1-46Dethon-nhwy in agos at Jerwsalem a dod i Bethffage, i Mini'r Llwyn Olifs. Halodd Jesu dou o'r disgiblion, a gweu’thyn nhwy, “Cerwch miwn i'r pentre sy goddereb â chi, a fan 'ny fe ffindiwch chi asen wedi clwmu a ebol gyda hi. Datodwch nhwy a'u harwen nhwy ata i; a os neith unrhyw un weud urnhywbeth wrthoch chi, rhaid i chi weud, ‘Ma u hishe nhwy ar ir un sy pia nhwy’; a wedyn neith e u hala nhwy.” Digwyddodd hyn fel bo'r peth gâth i weud trw'r proffwd in dod in wir,
‘Gwêd wrth roces Seion,
Dricha, ‘co di Frenin di'n dwâd,
in addfwyn a'n ishte ar gewn asyn,
ar ebol, ebol asyn.”
Âth i disgiblion a neud fel nâth Iesu weud wrthyn nhwy. Dethon nhwy â'r asen a'r ebol a rhoid i dillad arnyn nhwy, a ishteddodd e arnyn nhwy. A wedyn nâth crowd mowr iawn roi u dillad ar ir hewl, ac fe dorodd rhei erill brige o'r llwyni a'u rhoi nhwy ar ir hewl. A we'r crowde we'n mynd o'i flân e a'r rhei wei'n dod tu ôl in gweiddi,
“Hosanna i Grwt Dafydd!
Gwyn 'i fyd ir un sy'n dwâd in enw'r Arglwi.
Hosanna in uchafion i nefodd!
Pan ddâth ei miwn i Jerwsalem, we'r ddinas i gyd wedi ciffroi. Gwedon nhwy, “Pwy yw hwn?” Gwedo'r crowde, “'Co'r proffwyd Iesu, o Nasareth ing Galilea.”
Âth Iesu miwn i'r demel, a hala bob un we'n pernu a gwerthu mas; diwelodd e fordydd i rhei we'n newid arian a stole'r rhei we'n gwerthu colomenod; a gwedodd e wrthyn nhwy, “Ma'r Isgrithur in gweud, ‘Biddan nhwy'n galw in dŷ i in dŷ gweddi’; ond ŷch chi in i neud e'n ogof i ladron.”
Dâth i rhei we'n ffaelu gweld a'r rhei cloff ato fe in i demel, a nâth e u gwella nhwy. Pan welo'r pen-ffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth i pethe rhifedd hyn wedd e'n u neud, a'r plant in gweiddi in i demel, “Hosanna i Grwt Dafydd!” wen nhwy'n grac, a gwedon nhwy wrtho fe, “Wit ti'n cliwed beth man nhwy'n gweud?” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Wdw; nethoch chi ddim darllen ariôd, ‘Mas o geg babis a plant sy'n sugno wit ti wedi dwâd â mawl perffeth’?” Wedyn gadodd e nwhy, mynd mas o'r ddinas a i Bethania, a fan'ny arosodd e.
Pan ddâth e nôl i'r ddinas in ginnar in i bore we ishe bwyd arno fe. Gwelodd e lwyn ffigs ar bwys ir hewl, dwâd ato ond câl dim byd ond dail arno. Gwedodd e wrtho, “Paid ti byth â tiddu ffrwythe 'to!” A tima'r llwyn ffigs in gwywo ar unweth. Pan welo'r disgiblion hyn wen nhwy wedi sinnu a gwedon nhwy, “Shwt nâth i llwyn ffigs wywo ar unweth?” Atebo Iesu nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os wes ffydd 'da a senoch chi'n ame, biddwch chi ddim dim ond in neud beth ddigwyddodd i'r llwyn ffigs, ond hyd nôd os wedwch chi wrth i mini 'ma, ‘Cer o’ma a towla di unan i'r môr’ fe fydd e'n digwydd; os wes ffydd 'da chi biddwch chi'n câl beth binnag ŷch chi'n gofyn amdano mewn gweddi.”
Pan ddâth e miwn i'r demel, dâth i pen-ffeiriadon a henuried i bobol ato fe pan wedd e'n disgu, a gweud, “'Da pwy wit ti wedi câl hawl i neud hyn? Pwy roiodd awdurdod iti?” Atebo Iesu, “'Na i ofyn un cwestjwn i chi. Os wedwch chi hyn wrtha i, weda i wrthoch chi pwy hawl sy 'da fi i neu i pethe 'ma. O ble ddâth bedydd Ioan, o'r nefodd neu wrth ddinion?” Wen nhwy'n dadle 'da'i gily: “Os wedwn ni, ‘O'r nefeodd’, wedyn wedith e, ‘Pam nethoch chi ddim mo'i gredu fe, te?’ Ond os wedwn ni, ‘Wrth ddinion”, ma ofon i crowd arnon ni; achos we bob un in credu bo Ioan in broffwd.” Atebon nhwy Iesu, “Senon ni'n gwbod.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “A sena i'n gweu’thoch chi pwy hawl sy 'da fi i neud i pethe 'ma.
“Beth ŷch chi'n feddwl? We dyn â dou grwt 'dag e; âth e at i cinta a gweud, ‘In grwt i, cer a gweitha in i willan heddi.’ Atebodd e, ‘Na 'na i.’ Wedyn newidodd e i feddwl a mynd. Wedyn âth e at ir ail a gweud ir un peth. Atebodd e, ‘Wrth gwrs’; ond âth-e ddim. Pwy un o'r ddou nâth neud beth we'i dad moyn iddo neud?” Gwedon-hwy, “I cinta.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma'r rhei sy'n casglu trethi a puteinied in mynd miwn i Deyrnas Duw o’ch blân chi. Achos dâth Ioan atoch chi a dangos i ffordd reit i fyw a netoch chi ddim o'i gredu e; ond credodd rhei we'n casglu trethi a puteinied. Gweloch chi hyn ond nethoch chi ddim difaru a'i gredu e.
“Grondwch ar ddameg arall: Planodd dyn we'n perchen tir winllan, codi ffens rownd iddi, torri lle i wasgu gwin a wedyn codi tŵr. Rhoiodd e'r lle mas i ffarmwyr a mynd dros i dŵr. Pan ddâth ir amser i ffrwythe ddwâd halodd ei i geithion at i ffarwyr i gâl i ffrwythe fe. Cwrodd i ffarwyr i ceithion; bwrw un, lladd un arall, a bwrw cerrig at un arall. Halodd e geithion erill, mwy nag o'r blân, a nethon nhwy'r un peth iddyn nhwy. Wedyn halodd e i grwt atyn nhwy, a gweud, ‘Newn nhwy barchu in grwt i.’ Ond pan welo'r ffarwyr i crwt in dwâd gwedonhwy wrth i gily, ‘Fe sy'n mynd i etifeddu'r cwbwl. Dewch, gadwch i ni i ladd e, a câl in dwylo ar i etifeddieth.’ Ethon nhwy ag e, i dowlu e mas o'r winllan, a'i ladd e. So pan ddeith ir un sy pia'r winllan, beth nieth e i'r ffarmwyr?” Gwedon nhwy, “Bydd e'n dwâd â'r dinion drwg 'na i ddiwedd drwg, a'n rhoi'r winllan mas i ffarwyr erill, rhei fydd in rhoi i siâr o'r cineia iddo.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Senoch chi ariôd wedi darllen beth sy wedi'i reito:
‘Ma'r garreg nâth i rhei we'n bildo'n i thowlu bant
wedi dwâd in garreg-gornel;
ir Arlgwidd sy wedi neud hyn,
a ma hinny'n beth rhifedd in in golwg ni’?
So wedyn 'te, dwi'n gweu’thoch chi ceith Teyrnas Dduw i chwmrid wrthoch chi a'i rhoi i genedl sy'n dwyn ffrwyth i deyrnas. Bydd pwy binnag sy'n cwmpo ar i garreg 'ma in câl u torri'n rhacs jibidêrs, a bydd e'n gwasgu'r un mae'n cwmpo ar i ben e.
Pan gliwo'r pen-ffeiradon a'r Ffariseied beth wedd e'n weud in i ddamegion, wen nhwy'n diall in iawn taw amdanyn nhwy wedd e'n sharad, ac er bo nhwy'n drich am ffordd i ddala fe we ofon arnyn nhwy achos i crowde, achos we'r crowde in i weld e fel proffwyd.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Mathew 21: DAFIS

සළකුණු කරන්න

බෙදාගන්න

සසඳන්න

පිටපත් කරන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න