Genesis 18
18
1 Abraham yn derbyn tri angel i’w dŷ. 9 Sara a geryddir am chwerthin rhyngddi a hi ei hun o ran yr addewid ddieithr. 17 Duw yn rhybuddio Abraham am ddinistr Sodom. 23 Ac Abraham yn eiriol trostynt.
1A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd. 2#Heb 13:2Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua’r ddaear, 3Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was. 4#Pen 43:24Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren; 5Ac #Barn 6:18; 13:15mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: #Pen 19:8; 33:10oherwydd i hynny y daethoch #18:5 Heb. heibio i’ch.at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist. 6Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau. 7Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef. 8Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
9A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell. 10Ac un a ddywedodd, #ad. 14Gan ddychwelyd y dychwelaf atat #2 Bren 4:16ynghylch amser bywoliaeth; ac wele #Pen 17:19, 21; 21:2; Rhuf 9:9fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef. 11#Pen 17:17; Rhuf 4:19; Heb 11:11, 12Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd. 12Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, #Luc 1:18Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, #1 Pedr 3:6a’m harglwydd yn hen hefyd? 13A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio? 14#Jer 32:17; Sech 8:6; Mat 19:26; Luc 1:37A fydd dim yn anodd i’r Arglwydd? #Pen 17:21Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara. 15A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.
16A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, #Rhuf 15:24; 3 Ioan 6i’w hanfon hwynt. 17A’r Arglwydd a ddywedodd, #Amos 3:7; Ioan 15:15A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf? 18Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac #Pen 12:3; 22:18; Act 3:25; Gal 3:8ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear. 19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano. 20Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod #Pen 4:10; 19:13; Iago 5:4gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn; 21#Pen 11:5Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod. 22A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr Arglwydd.
23Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol? 24#Jer 5:1Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi? 25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: #Job 8:3; 34:17; Rhuf 3:6oni wna Barnydd yr holl ddaear farn? 26A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt. 27Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi #Pen 3:19; Job 4:19; Preg 12:7; 1 Cor 15:47, 48; 2 Cor 5:1yn llwch ac yn lludw. 28Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain. 29Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain. 30Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain. 31Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain. 32Yna y dywedodd, #Barn 6:39O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg. 33A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Genesis 18: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
පිටපත් කරන්න
සසඳන්න
බෙදාගන්න
ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society