Genesis 11
11
1 Un iaith yn y byd. 3 Adeiladu Babel. 5 Cymysgu yr ieithoedd. 10 Cenedlaethau Sem. 27 Cenedlaethau Tera tad Abram. 31 Tera yn myned o Ur i Haran.
1A’r holl ddaear ydoedd o un #11:1 Heb. wefus.iaith, ac o un #11:1 Heb. eiriau.ymadrodd. 2A bu, a hwy yn ymdaith #11:2 Neu, tu a’r dwyrain; fel Pen 13:11o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant. 3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. 4A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. 5A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion. 6A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur. 7Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. 8Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. 9Am hynny y gelwir ei henw hi #11:9 Sef, Cymysg.Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
10 #
Pen 10:22
; 1 Cron 1:17Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw. 11A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 12Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela. 13Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber. 15A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 16#1 Cron 1:19Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd #Luc 3:35 PhalecPeleg. 17A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 18Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu. 19A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd #Luc 3:35 SaruchSerug. 21A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd #11:22 Neu, Nahor.Nachor. 23A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 24Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd #Luc 3:34 TharaTera. 25A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 26Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac #Jos 24:2; 1 Cron 1:26a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot. 28A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid. 29Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, #Pen 22:20Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. 30A #Pen 16:1,2; 18:11, 12Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. 31A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei #11:31 ferch yng nghyfraith.waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o #Neh 9:7; Act 7:4Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. 32A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Genesis 11: BWM1955C
සළකුණු කරන්න
පිටපත් කරන්න
සසඳන්න
බෙදාගන්න
ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society