බයිබල් යෙදුම් ලාංඡනය
සෙවුම් නිරූපකය

Numeri 8

8
Gosod y Lampau
1A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth Aaron, ‘Pan fyddi’n gosod y lampau yn eu lle, gwna’n siŵr fod y saith lamp yn taflu’u golau o flaen y menora.’” 3A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe’n gosod y lampau fel eu bod yn taflu’u golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. 4Gwaith morthwyl oedd y menora – aur wedi’i guro. Roedd yn waith morthwyl o’i goes i’w betalau. Cafodd ei wneud i’r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddangos i Moses.
Puro a chysegru’r Lefiaid
5Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 6“Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd drwy’r ddefod o’u puro nhw. 7A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio’u corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi. 8Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda’i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi’i gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro. 9Wedyn rwyt i fynd â’r Lefiaid i sefyll o flaen pabell presenoldeb Duw, a chasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno. 10Yna mae’r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw’n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 11Wedyn mae Aaron i gyflwyno’r Lefiaid i’r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i’w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD. 12Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a’r llall yn cael ei offrymu i’w losgi’n llwyr i’r ARGLWYDD, i wneud pethau’n iawn rhwng Duw a’r Lefiaid. 13Yna mae’r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a’i feibion, i’w cyflwyno nhw’n offrwm sbesial i’r ARGLWYDD. 14A dyna sut mae’r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau’r Lefiaid.”
15“Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a’u cyflwyno’n offrwm sbesial i mi. 16Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i’n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel. 17Fi piau’r meibion hynaf i gyd, a hefyd bob anifail cyntaf i gael ei eni. Rôn i wedi’u cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft. 18Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel. 19A dw i wedi rhoi’r Lefiaid i Aaron a’i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau’n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw’n mynd yn agos i’r cysegr.”
20Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru’r Lefiaid. Dyma nhw’n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. 21Dyma’r Lefiaid yn mynd drwy’r ddefod o buro’u hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i’r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe’n mynd drwy’r ddefod o wneud pethau’n iawn rhyngddyn nhw a Duw, er mwyn eu puro nhw. 22Wedi hynny, dyma’r Lefiaid yn mynd i’r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a’i feibion. Dyma nhw’n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
23Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 24“Dyma fydd y drefn gyda’r Lefiaid: Maen nhw’n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump oed, 25a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw’n bum deg oed. 26Ar ôl ymddeol, maen nhw’n cael dal i helpu’r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.”

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Numeri 8: bnet

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න