Matthaw 15

15
PENNOD XV.
Christ yn argyhoeddi’r Ysgrifenyddion ar Pharisai, yn iachau merch y wraig o Ganaan, ac yn porthu y torfeydd.
1YNA’R ysgrifenyddion a’r Pharisai, y rhai oeddent o Ierusalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ymofyn, 2Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylaw pan fwyttaont fara. 3Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 4Canys Duw a orchymynodd gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam; a’r hwn a rho ddrygair i’w dad neu i’w fam lladder ef yn farw. 5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Os dywed un wrth ei dad neu’i fam, y lles y cewch oddi wrthyf fi, ydyw fy rhodd i, etto ni ddianrhydedda ei dad neu’i fam. 6Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddi-rym trwy eich traddodiad eich hun. 7Oh ragrithwŷr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd, 8Y mae y bobl hyn yn nesâu attaf a’u genau, ac yn fy anrhydeddu a’u gwefusau; ond eu calon sydd yn pellhau oddi wrthyf. 9Ac yn ofer y’m anrhydeddant i, gan ddysgu yn athrawiaeth traddodiadau dynion. 10Ac wedi iddo alw y dyrfa atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deallwch. 11Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn. 12Yna y daeth ei ddisgyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Pharisai wrth glywed yr ymadrodd hyn? 13Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn ni’s plannodd fy Nhad nefol a ddiwreiddir. 14Gadêwch iddynt: tywysoddion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos. 15A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon. 16A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau etto heb ddeall? 17Onid ydych chwi yn deall fod pob peth sydd yn myned i mewn i’r genau yn cwympo i’r bola, ac yn cael ei fwrw allan i’r geudy? 18Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau, sy’n dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny halogant ddyn. 19Canys o’r galon y daw allan ymadroddion drwg, lladdiadau, godinebau, putteindra, lladradau, cam dystiolaethau, cablau. 20Dyma’r pethau sy’n halogi dyn: eithr bwytta â dwylaw heb olchi ni haloga ddyn. 21A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22Ac wele, gwraig o Canaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthyf, Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 23Eithr nid attebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hol. 24Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 25Ond hi a ddaeth ac a’i cyfarchodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi. 26Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cwn. 27Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: etto y mae’r cwn yn bwytta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 28Yna’r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno. 29A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth ger llaw llyn Galilaia ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30A daeth atto dorfeydd lawer, a chanddynt gyd â hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 31Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel. 32A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyd â mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt i’w fwytta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. 33A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymmaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymmaint? 34A’r Iesu a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 35Ac efe a orchymynodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 36A chan gymmeryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’i ddisgyblion i’r dyrfa. 37A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briw-fwyd oedd y’ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. 38A’r rhai a fwyttasant oedd bedair mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant. 39Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i fâd, ac a ddaeth i barthau Magdala.

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Matthaw 15: JJCN

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න