1
Genesis 45:5
beibl.net 2015, 2024
bnet
Peidiwch ypsetio na beio’ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o’ch blaen chi i achub bywydau.
2
Genesis 45:8
Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i’n gynghorydd i’r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
3
Genesis 45:7
Mae Duw wedi fy anfon i yma o’ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol.
4
Genesis 45:4
A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw’n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i’r Aifft.
5
Genesis 45:6
Dydy’r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau’n methu.
6
Genesis 45:3
Dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw’n sefyll yn fud o’i flaen.