Logótipo YouVersion
Ícone de pesquisa

Psalmau 22

22
Y XXII Psalm Cowydh deuair hirion.
1Paham fy nuw gloewdhvw glod
Im gwarth yr wyd im gwrthod?
Ag wyd nid gwell mor bell byd
O fwy ochain fy iechyd?
Ag o dhiwrth gwaedh o erthwch
Oroff lais fyngeiriav fflwch.
2Gelwaist dydh nim koeliaist i
Yn d’awydh nim gwrandewi
Ar nôs drwch oernaws o dro
Wir vnduw heb yngwrando.
3Gwir foliant Israel haelwych
Santaidh wyd dros hynt oedh wych.
4Rwydh iawn byth y rhodhai ’n ber
Yn tadau ynot hyder.
Yn i ymdhiriaid amnaid oedh
Gwaredaist hwy gwir ydoedh
5Galwassant dwedant yn dost
Rhwydhgain waith rhydh y gwnaethost.
Ymdhiredynt ar hynt rhwydh
Gwir ydyw ni bu gwradwydh.
6Nid gwr dewr nid gorau dyn
Nid pur wyf onid pryfyn.
Kwilydh dynion feilchion fil
A dirmig i bedeirmil.
7Pawb am gwyl pe bai mwy gant
Etto wyr am gwatwarant.
A siglo i penn foelken fu
Yn gymmar a mingammu
8Ymdhiriedai leilai lwydh
O wirglaim ar yr arglwydh:
Gwareded kadwed wr kv
Gwirion ag ef yw garv.
9Ond di am tynni drwy’r tan
Gwiwraith oll or groth allan.
A rhoist obaith maith imi
Y mronnau y mam rïeni
10Kynn fyn geni henwi had
Wirner im bwrwyd arnad.
Ydwyd fy nvw kroewdhvw kred
Gwiwnerth er pann im ganed.
11Ymhell na dhos vn nos ner
Abl o wendid rhag blinder
Sydh agos im swydh gas wr
Ar odiaeth heb waredwr
12Teirw Ifaingc yn ainck a wnant
Kamp ysig am kwmpassant:
Teirw Basan hwylian helynt
Im o amgylch ogylch ŷnt.
13Safn egored vwch gwledydh:
Fal llew rheibus dhirus dhyhh.
14Ydwyf fal dwfr berwdhwfr bid
O delltwch a dowelltid.
Am holl esgyrn migyrn mwyd
Eilwaith a dhigymalwyd.
Mal kwyr or mel ae kweiriawdh:
Mae ’nghalon im dwyfron dawdh.
15Sychwyd fy nerth îs ochain
Fal darn pridhlestr menestr main.
Glyd fynhafawd wydnwawd wav
Im ochain wrth fy mochav.
Dygaist fi bwriaist i ball.
Hyd dwst angau dyst angall.
16Yn arw y kwn ar i kais:
Om amgylch sydh im ymgais.
Tyllassont drylliassont draw
Dileth fynrhaed am dwylaw.
17Gallaf rif a chyfrif chwyrn
Allesgedh fy holl esgyrn
Hylidremio kofio y kaf
Ag edrych oernych arnaf.
18A rhanab fry rhy wann frad
Ofni a ellynr fy nillad:
Am fynghadach masnachu
A chyttysav heb av bu.
19Na fydh ymhell gymell gain
Arglwydh o dhiwrthyf evrglain:
Dy gymorth am ymborth mawl
Dyro yn wyrth Dnw ior nerthawl
20Gwared fenaid rhaid ior hyf
Cul eidhil rhag y kledhyf.
Am mwyn enaid mae ’n vnig
Rhag nerth a swn kwn y kig:
21Kadw o enau kadwynawg
Oll er hynn y llew y rhawg,
Ateb fi kadw difradw fryd
Rag kyrn yr vncyrn enkyd;
22Traetha d’enw at raith dynion
Im pybyr frodyr vn fronn:
Ynghanol ynghv einioes
Kenelleidafa mola im oes.
23Molianned ef mael vnawr
A ofno Duw funyd awr.
O gwbl oll Iago ae blant
A rhagor ae mawrygant,
A fflant Israel gafael gyd
Ofnwch ef yn wych hefyd.
24Ni dhirmygodh fymlfodh son
O deil adwyth dylodion:
Ni ymgudhiodh ion am gwiwdhuw
Ban alwodh gwranda wodh Duw.
25Dy foliant hyd fy elawr
Fydh ir genelleidfa fawr:
A gwiriaf fy llwf geirwir
Y ngwydh ae hofno fyngwir.
26Bwyty tylawd heb wawd bydh
A llenwir a llewenydh.
A geisio Duw fal gwas da
Mael enhyd ae molianna.
Ae galon fal gwehelyth
A fydh hedhyw byw a byth.
27Ag eithafion gwaith he fyd
Kaiff wir barch ae koffa ir byd.
A thorfoedh genhedloedh gant
Trowsion at farglwydh trossant.
28Ag vrdhas yn adhas ner
Oth flaen a berffaith lenwer
Kans yr arglwydh rwydh o ras
Bor dewrnerth biau ’r deyrnas:
Yn rheolt yu ior hylaw
Y kenhedloedh dorfoedh daw.
29Gwyr breifion purion porant
Yn ol i adholi a wnant,
Ar rhai vfydh rhydh mae ’n rhaid
Yno ni all help yw henaid.
30I had hwy yn dreftadawl
Ae gwasnae tha mwya mawl.
Kenhedlaeth Duw hoewfaeth oir
Kof ryfig y kyfrifir.
31Traether i gyfiownder fo
E dhylau ’r sawl a dhelo:
Kans fo ae gwnaeth, di gaeth da ged
Ganwaith ir sawl nis ganed.

Atualmente selecionado:

Psalmau 22: SC1595

Destaque

Partilhar

Copiar

None

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão