Salmydd 3

3
SALM III.
8.7. Lousanne. St. Sylvester.
1Arglwydd, gweli fy nhrallodwyr,
Aml a chreulon ydynt hwy;
2D’wedant nad oes iachawdwriaeth
Yn ei Dduw i’m henaid mwy.
3Ond Tydi wyt imi ’n darian,
Ie Ti ddyrchefi ’mhen;
4Clywi ’m llef pan alwyf arnat
Fry oddiar dy orsedd wen.
5Mi orweddais ac a gysgais,
Do, deffroais foreu gwyn;
Ti’m cynheliaist, 6ac nid ofnaf
Ddengmil o’m gelynion hyn.
7Drylliaist erof safnau’r llewod,
Cyfod eto, gwared fi;
8Iachawdwriaeth sydd yn eiddot,
Boed dy fendith arnom ni.

अहिले सेलेक्ट गरिएको:

Salmydd 3: SC1885

हाइलाइट

शेयर गर्नुहोस्

कपी गर्नुहोस्

None

तपाईंका हाइलाइटहरू तपाईंका सबै यन्त्रहरूमा सुरक्षित गर्न चाहनुहुन्छ? साइन अप वा साइन इन गर्नुहोस्