YouVersion लोगो
सर्च आयकॉन

Rhufeiniaid 2

2
Y Beirniad Iuddewig hefyd yn Gondemniedig.
1O herwydd paham, diesgus wyt, O ddyn, bob un sydd yn barnu, canys yn yr hyn yr wyt yn barnu y llall#2:1 Llyth., yr un gwahanol, sef, y Cenedl‐ddyn. Yr Iuddew sydd yn ei farnu., yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2Ac ni a wyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau. 3Ac a wyt ti yn cyfrif hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thi yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag barn Duw? 4Neu a ddiystyri di olud#2:4 Y mae y gair, fel yn ddesgrifiadol o ddoniau ysprydol Duw, yn cael ei ddefnyddio gan Paul yn unig. ei ddaioni#2:4 Chrêstotês, cymmwynasgarwch, caredigrwydd, haelfrydigrwydd. a'i oddefgarwch a'i hir‐ymaros, gan fod heb wybod fod rhodd ddaionus#2:4 To chrêston, peth daionus. Duw yn dy dywys#2:4 Y mae tywys yn golygu ewyllys dyn yn ogystal ag ewyllys Duw. ‘Y mae Duw yn arwain y rhai sydd ewyllysgar i gael eu harwain.’ di i edifeirwch? 5Eithr yn ol dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw, 6yr hwn a dâl i bob un yn ol ei weithredoedd#Diar 24:12, LXX: 7i'r rhai, yn wir, mewn amynedd yn gwneuthur da#2:7 Llyth., yn ol amynedd gweithred dda. Amynedd yw yr egwyddor neu y safon yn yr ymchwiliad am ogoniant, &c. Y mae ‘gweithred’ yn sefyll am waith bywyd. a geisiant ogoniant, ac anrhydedd ac anllygredigaeth, y bydd bywyd tragwyddol; 8ond i'r rhai sydd gynhennus#2:8 Llyth., o gynnen, o blaid, yn gweithredu o yspryd pleidgar a chynhennus. ac yn anufuddhau i'r gwirionedd, ond yn ufudd i annghyfiawnder, y bydd digofaint#2:8 Digofaint a llid א A B D G Brnd. a llid#2:8 Orgê, digofaint, yw y teimlad, thumos, llid, yr amlygiad o hono. Ni ddefnyddir ‘llid’ mewn cyssylltiad â Duw ond yma, ac yn y Dadguddiad (11:4, 10, 19; 15:1, 7; 16:1, 19; 19:15)., 9trallod#2:9 Y mae trallod yn golygu yma enaid o dan bwysau trwm; cyfyngder, mewn lle cyfyng, sydd yn cau o'i amgylch. Nid difodiant yw cosp yr annuwiol, ond ymwybodolrwydd poenus. a chyfyngder ar bob enaid dyn sydd yn gweithredu yr hyn sydd ddrwg, yr Iuddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd; 10ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sydd yn gweithredu yr hyn sydd dda, i'r Iuddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd: 11canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. 12Canys cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf#2:12 Heb Gyfraith ddadguddiedig., yn ddiddeddf hefyd a gyfrgollir; a chynnifer ag a bechasant dan#2:12 Llyth., yn, o fewn cylch a dylanwad deddf. Bernir hwy yn ol Cyfraith ddadguddiedig. ddeddf, trwy ddeddf a fernir; 13canys nid gwrandawyr deddf#2:13 Egwyddor deddf a geir yma, ac nid ei chynnwysiad fel yng Nghyfraith Moses. Defnyddir y gair mewn tri ystyr: (1) deddf yn gyffredinol (heb y fannod); (2) Cyfraith Moses, nid fel eiddo Moses ond fel yn meddiannu nodweddau deddf (heb y fannod etto); (3) Cyfraith Moses, â'r hon fel y cyfryw yr oedd y darllenydd yn gydnabyddus (gyda'r fannod, ho nomos, ‘Y Ddeddf’). sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr deddf a gyfiawnheir. 14Canys pan fo Cenhedloedd, y rhai nid#2:14 Grym yr ymadrodd: ‘Y rhai, dybiem ni, nid oes ganddynt ddeddf’ (Gr. ). oes ganddynt ddeddf, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau y ddeddf, y rhai hyn, heb ddeddf, ydynt ddeddf iddynt eu hunain#2:14 Lle mae cyflawniad deddf, yno y mae deddf., 15yn gyfryw ag sydd yn dangos gwaith y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, eu cydwybod yn cyd‐dystiolaethu#2:15 Sef, a gofynion y ddeddf., a'u meddyliau#2:15 Neu, ymresymiadau., rhyngddynt a hwy eu gilydd#2:15 Y mae meddyliau y galon megys yn cael eu personoli, fel y maent yn eistedd mewn barn ar ymddygiad y dyn. Y maent yn cynnal cynadledd ar ei achos. Eraill a esboniant yr ymadrodd fel yn cyfeirio at wahanol bersonau yn pasio eu barn ar iawnder neu feiusrwydd gweithredoedd neu ymddygiad. Gwnant hyn mewn ymddiddan, llyfrau, &c., yn cyhuddo neu yn esgusodi, 16yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist.
Methiant yr Iuddew.
17Eithr#2:17 Ide (wele) L; ei de (ond os) A B א D Brnd. tydi, os Iuddew y'th gyfenwir, ac ymorphwyso o honot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw; 18ac yn gwybod ei ewyllys, a chymmeradwyo y pethau rhagorol#2:18 Neu, ‘a phrofi y pethau a wahaniaethant.’, wedi dy egwyddori allan o'r ddeddf; 19ac yn hyderus dy fod dy hun yn arweinydd y deillion, yn oleuni y rhai sydd mewn tywyllwch, 20yn ddysgyblydd#2:20 Paideutês, ysgolfeistr, dysgyblydd, diwygiwr, athraw. y rhai ffol, yn ddysgawdwr y rhai bychain, a chennyt yn y ddeddf fraslun#2:20 Amlinelliad, ffurf, ymgorphoriad. o wybodaeth a gwirionedd; 21tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter#2:21 Llyth., peidio a lladratta, peidio a godinebu., a ladretti di? 22yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber#2:22 Llyth., peidio a lladratta, peidio a godinebu., a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio yr eilunod, a gyssegr‐yspeili di#2:22 Amddiffynnodd ysgrifennydd Ephesus Paul a'i gymdeithion rhag bod yn gyssegr‐yspeilwyr (Act 19:37). Felly y mae yn debygol fod Iuddewon, ar brydiau, yn euog o hyn.? 23yr hwn wyt yn ymffrostio mewn deddf, trwy droseddiad y ddeddf yr wyt yn dianrhydeddu Duw#2:23 Cymmerir yr adnod yn fynych fel gofyniad; ond y mae y cyfnewidiad yn ffurf yr ymadrodd yn awgrymmu mai haeriad yw.. 24Canys enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir ym mhlith y Cenhedloedd, megys y mae yn ysgrifenedig#2:24 Cymhwysiad rhydd o Esaiah 52:5. Yno ceir, “A phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.”. 25Canys enwaediad#2:25 Neu, amdoriad. yn wir sydd yn lleshâu, os gwnei y ddeddf; eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, y mae dy enwaediad wedi myned yn ddienwaediad. 26Os y dienwaediad gan hynny a geidw ordeiniadau#2:26 Dikaiôma, gosodedigaeth deddf, appwyntiad cyfraith, ordeiniad, yr hyn a ofynnir. y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27A'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth#2:27 Y Cenedl‐ddyn, yr hwn sydd ddienwaededig yn rhinwedd ei enedigaeth., gan gyflawnu#2:27 Hynny yw, ‘Os cyflawna y ddeddf.’ y ddeddf, a'th farna di, yr hwn, gyda'th Lythyren#2:27 Nid yn gymmaint y gorchymyn i enwaedu, ond saif y gair ‘Llythyren’ am y Gyfraith Seremoniol yn ei chyfanrwydd. a'th Enwaediad, wyt droseddwr deddf#2:27 Gwell peidio ystyried yr adnod fel gofyniad.. 28Canys nid yr hwn sydd oddi allan#2:28 Llyth., yn yr amlwg. sydd Iuddew, ac nid yr hyn sydd oddi allan#2:28 Llyth., yn yr amlwg. yn y cnawd sydd enwaediad. 29Eithr yr hwn sydd oddi mewn sydd Iuddew, ac enwaediad yw eiddo y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren, clod#2:29 Y mae yma ymchwareu ar ystyr geiriau. Ystyr Judah, o'r hwn y daw y gair Iuddew, yw clod. yr hwn nid yw o ddynion, ond o Dduw.

सध्या निवडलेले:

Rhufeiniaid 2: CTE

ठळक

कॉपी करा

तुलना करा

सामायिक करा

None

तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन