Actau 28
28
Yr Arosiad a'r dygwyddiadau yn Melita, 1–10.
1Ac wedi dyfod yn ddiangol#28:1 Yr un ferf ag yn 27:43, 44, ‘wedi ein cadw yn ddyogel.’, yna y gwybuom#28:1 gwybuom א A B C Brnd.; gwybuant H L. mai Melita#28:1 Neu Malta. Y mae rhai wedi barnu mai Meleda, ynys fechan heb fod yn mhell o dueddau Dalmatia, yn Llynclyn Venice (neu y Môr Adriaidd yn ei ystyr cyfyngaf a diweddaraf) oedd yr ynys hon. Y mae y farn hon yn sylfaenedig ar ystyriaethau fel y canlynol: (1) nad oes creaduriaid gwenwynig yn Malta, (2) nad oedd trigolion Malta yn farbariaid, fel yr oedd y rhai hyn, (3) nad yw Malta yn y Môr Adriaidd, &c. Ar y llaw arall, y mae Malta yn ateb yn hollol i'r desgrifiad a geir yn y ddwy bennod olaf o'r Actau. Y mae y fordaith o Malta yn dangos hyny yn eglur. Ni fyddai y llong yn morio yn gyntaf i Syracus ac yna i Rhegium pe o Meleda y deuai, canys y mae Rhegium yn agosach i Meleda na Syracus; tua Malta ac nid Meleda y gyrai y gwynt ogledd‐ddwyreiniol y llong; y mae natur Machwy St. Paul yn Malta yn profi yn ddiamheuol mai yno y dygwyddodd y llong‐ddrylliad. Nis gallasai y llong fyned 780 o filltiroedd o Clauda i Meleda yn yr amser a nodir, ond gallasai fyned y 480 o filltiroedd o Clauda i Malta. Yr oedd Môr Adria, fel y gwelsom yn y bennod olaf, yn cyrhaedd o Sicily i Groeg; ac nid yw y ffaith, os ffaith ydyw, nad oes creaduriaid gwenwynig yn awr yn Malta, yn profi nad ydoedd yn yr amser hwn. y gelwir yr ynys. 2A'r barbariaid#28:2 barbariaid yn yr ystyr na lefarent Roeg neu Lladin: rhai a siaradent iaith ddyeithr neu estronol. Defnyddiai y Groegiaid y gair am bawb na lefarent eu hiaith; cymharer Rhuf 1:14, ‘Dyledwr wyf i'r Groegiaid ac i'r barbariaid’; gweler hefyd 1 Cor 14:11, lle y golyga un yn llefaru mewn iaith anadnabyddus. Yr oedd iaith Malta yn briod‐iaith Phœniciaidd, ac yr oedd y rhan fwyaf o'i thrigolion wedi dyfod o Carthage. Y mae y gair yma yn gyfystyr a ‘brodorion,’ ‘dyeithriaid.’ a ddangosasant#28:2 llyth: a estynasant. i ni ddyngarwch#28:2 Yr un gair ag yn 27:3, hynawsedd, caredigrwydd. anghyffredin#28:2 llyth: heb ddygwydd [yn fynych], nid cyffredin, felly uwchlaw y cyffredin, neillduol.: canys cyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll yn roesawgar#28:2 llyth: derbyniasant at (atynt eu hunain), felly, croesawu., o herwydd y gwlaw oedd yn disgyn#28:2 llyth: wedi sefyll ar, wedi dyfod, wedi gorddiwes, presenol; felly yma, yn disgyn. ac o herwydd yr oerfel#28:2 Gwynt y gogledd‐ddwyrain oedd yn chwythu.. 3Ond wedi i Paul gasglu ynghyd#28:3 Gwelwn Paul yma eto yn flaenllaw mewn gwasanaethu a chynorthwyo. Fel y mae yr anghenrhaid felly ei barodrwydd. Gwna ei oreu i gynhesu y corph yn ogystal a chysuro y meddwl. Yr oedd gwneyd pebyll, casglu tan‐wydd, a llafurio fel Apostol penaf Crist, — yr oll yn ei linell ef. Dedwydd a defnyddiol yw y dyn a all ‘droi ei law’ at bob gwaith a fydd o les neu gysur i'w gyd‐ddynion. Y dyn mwyaf sydd was i bawb. rhyw lawer o friw‐wydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan#28:3 a ddaeth allan o'r tan‐wydd. o#28:3 o achos [apo] א A B C Brnd.; allan o [ek] Test. Derb. achos#28:3 Defnyddir apo weithiau yn yr ystyr o achos, o herwydd. y gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. 4A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth#28:4 llyth: allan oddiwrth. ei law, hwy a ddywedasant y naill wrth y llall, Yn ddios#28:4 pantós, yn gyfangwbl, yn ddiamheu, yn sicr, yn ddios. Gweler 18:21; 21:22. llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, er ei ddyfod yn ddyogel o'r môr, Cyfiawnder#28:4 Fel priodoledd o Dduw, neu fel duwies Dial. Gwyddai y Melitiaid yn ddiamheu fod Paul yn garcharor, a'i fod ar ei ffordd i Rufain i gael ei brofi; a phan welsant y wiber yn glynu wrth ei law daethant i'r penderfyniad mai llofruddiaeth oedd ei drosedd. ni adawodd#28:4 Ystyrient ef yn barod fel yn farw. Nid oedd diangfa bellach i fod. iddo fyw. 5Ond efe yn wir gan hyny a#28:5 a ysgydwodd ymaith א B; a ysgydwodd ymaith oddiwrtho ei hun A H L. ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed#28:5 llyth: drwg. Dyma gyflawniad o eiriau Crist, ‘Seirph a godant i fyny, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed.’ Marc 16:18. Y mae yma ddarlun o gosp a thynghed yr Hen Sarph (Dad 12:9; 22:2; ‘a fwriwyd i'r llyn o dân,’ 20:10).. 6Ond yr oeddent hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo#28:6 Golyga pimprasthai, ‘fflamychu’ yn ogystal a ‘chwyddo.’ ‘Disgwylient i'w gnawd fyned yn llidiog ac yna i chwyddo.’ llyth: ar fedr chwyddo. neu syrthio i lawr yn ddisymwth yn farw#28:6 yr hyn yn fynych yw canlyniad brathiad y Sarph Affricanaidd.: eithr pan oeddent yn hir‐ddisgwyl#28:6 llyth: disgwyl am lawer., ac yn gweled nad oedd dim niwed#28:6 llyth, allan o le, yna, niweidiol. Defnyddir y gair mewn ystyr foesol, Luc 23:41; 2 Thess 3:2. yn dygwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl#28:6 ‘Hwy a droisant [yn eu meddwl, barn.’], ac a ddywedasant mai duw oedd efe#28:6 Enghraifft arall o wamalwch y lluaws. Yn Lystra, gwnaeth y lluaws dduwiau o Paul a Barnabas ar y cyntaf, ond yn fuan newidiasant eu barn, a llabyddiasant Paul (14:11, 13, 20). Rhoddodd teirw ‘addurnedig â garlantau’ yr offrymwyr le i gerig yr ymosodwyr creulon. Addolid y sarph gan lawer, yn enwedig gan yr Aiphtiaid; addolai y Babyloniaid y Ddraig.. 7Ac#28:7 llyth: Ac yn y [manau] hyny o gylch y lle hwn. o gylch y lle hwnw yr oedd tiroedd yn perthyn i Benaeth#28:7 llyth: Flaenaf, sef Llywodraethwr yr Ynys. Meddianwyd Melita gan y Rhufeiniaid yn ystod y rhyfeloedd rhyngddynt a Carthage, a gosodwyd hi dan lywodraeth Rhaglaw (Pretor) Sicily. Yr oedd Publius yn is‐swyddog yn gwasanaethu fel ei gynrychiolydd. Y mae bathion wedi eu darganfod a'r geiriau Groeg Protos a Lladin Primus (‘Cyntaf’ neu ‘Blaenaf’) arnynt. Hwn oedd Teitl Llywodraethwr yr ynys. yr ynys, o'r enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni#28:7 Paul a'i gymdeithion, Luc ac Aristarchus, ac efallai y Canwriad ei hun. Cafodd Publius lawn ad‐daliad am ei garedigrwydd, ‘Yr hwn a dderbynio brophwyd yn enw prophwyd, a dderbynia wobr prophwyd.’, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig. 8A dygwyddodd fod tâd Publius yn gorwedd#28:8 neu, yn cadw ei wely (9:33; Marc 1:30; 2:4; Luc 5:25). yn glaf#28:8 llyth: yn cael ei ddal, yn cael ei wasgu (megys ofn, Luc 8:37; anhwylder, Mat 4:24). o dwymyn#28:8 llyth: dwymynoedd, sef, gwahanol ymosodiadau o'r un dolur; twymyn ddysbeidiol. Ysgrifena Luc fel physigwr; yn ei ysgrifeniadau ef yn unig y defnyddir y rhif lluosog. a gwaedlif#28:8 dusenterion, dolur yr ymysgaroedd neu y coluddion, gwaedlif.: at yr hwn yr aeth Paul i mewn ac y gweddïodd#28:8 Felly Petr (9:40).; a chan ddodi ei ddwylaw arno efe a'i hiachâodd. 9Ac wedi i hyn gymeryd lle, y lleill#28:9 llyth: y gweddill. Y mae yn debygol fod Paul wedi gwella pawb, a phob math o glefydau; ond ni roddir desgrifiad manwl a helaeth o hyny. Ni enwir hyny ond fel yr hyn a ddygwyddodd ar ‘y ffordd.’ Caredigrwydd ar y ffordd i Galfaria oedd gwyrthiau Crist; cymwynasgarwch ar y ffordd i bregethu yr Efengyl yn Rhufain oedd gwyrthiau Paul. hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chlefydau arnynt#28:9 llyth: ganddynt., a ddaethant ato ac a wellhawyd#28:9 Yn niwedd ad 8, ceir y ferf iaomai, iacháu; iachos, meddyg. Yma defnyddir y gair therapeuô, yr hwn a olyga gofalu am, gweini ar, yn enwedig ar y cleifion, ac felly, dynoda gwellháu.: 10y rhai hefyd a'n hanrhydeddasant ni â llawer o anrhydedd#28:10 llyth: anrhydeddau; nid yn gymaint rhoddion a gwobrwyon ag arddangosiad o barch ac edmygedd. Ni dderbyniai Paul wobrwyon am y gwyrthiau a gyflawnodd (Mat 10:8)., a phan hwyliasom#28:10 tua Chwefror neu Mawrth, dri neu bedwar mis ar ol y llong‐ddrylliad., hwy a osodasant ar y bwrdd y pethau anghenrheidiol#28:10 llyth: y pethau [a berthynent] i'r anghenion..
O Melita i Rufain, 11–15.
11Ac wedi tri mis ni a hwyliasom mewn llong yn perthyn i Alexandria#28:11 llyth: Alexandriaidd. Gweler 27:6. Y mae yr Efengyl yn hwylio mewn dwy long Aiphtaidd tua Rhufain. Gellid dywedyd gyda Esaiah (11:14), ‘Hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tu a'r gorllewin.’ Gweler cyfieithiad y LXX. o Es 11:14., yr hon oedd wedi gauafu yn yr ynys, arwydd#28:11 parasêmos, arwydd, nôd, yr hwn a baentid neu a gerfid ar ben blaen y llong. Yn ol rhai, ansoddair yw y gair, yn golygu, nodedig, amlwg, hynod; ond, fel rheol, defnyddir yr ansoddair mewn ystyr anffafriol, megys am leidr, &c. yr hon ydoedd Yr Efylliaid#28:11 Dioscouroi [o Dios, o Zeus (Jwpiter) a kouros, bachgen, mab] sef yr enw a roddid ar Castor a Pollux, dau fab (efylliaid) y prif‐dduw Zeus a Leda. Y ddau hyn, ‘Yr Efylliaid’ oeddent dduwiau gwarcheidwol llongau a morwyr. Traws‐symudwyd hwy i'r wybrenau, a ffurfiant gysawd o ddwy seren, ag sydd yn hynod o ffafriol i forwyr. Ystyrid yr ymddangosiadau goruchionol a ganfyddir ar brydiau o gylch y llong ar derfyniad ystormydd fel yn arwydd o'u presenoldeb a'u gofal. Mewn ofer‐goeledd diweddar, y mae yr ymddangosiadau hyn (megys goleuni neu dân trydanol yn ymddangos o gylch yr hwyl‐bren, &c.) yn ddyledus i ddylanwad St. Petr a St. Nicholas. [Ai llygriad yw y geiriau hyn o Castor a Pollux?] Ar brydiau ymddangosai y ddau fel gwyr ieuainc ar feirch, gan arwain y fyddin i'r hon yr oeddent yn ffafriol i fuddugoliaeth. (Gweler Horace, Od: 1 3:2; Catullus 4:27).. 12Ac wedi ein dyfod#28:12 neu, glanio, cyffwrdd; llyth: arwain i lawr [o'r môr]. Yr un gair ag yn 21:3; 27:3. i Syracus#28:12 Prif‐ddinas Sicily, yn y rhan dde‐ddwyreiniol o'r ynys. Bu yn dref bwysig un adeg. Yn ol Strabo, yr oedd yn 22 o filltiroedd mewn amgylchedd, ac mor gyfoethog a Charthage. Yma y dinystriwyd y fyddin a'r llynges Athenaidd yn ystod y Rhyfel Peloponnesaidd. Gwrth‐safodd ymosodiadau y Carthaginiaid a'r Rhufeiniaid, hyd nes y gorchfygwyd hi gan yr olaf yn C.C. 212. Yn amser Paul, yr oedd wedi colli llawer o'i gallu a'i mawredd cyntefig. Yr oedd 80 milltir o Malta., arosasom yno dridiau. 13Ac oddiyno wedi myned o amgylch#28:13 o herwydd fod y gwynt yn anffafriol, naill ar hyd y lan, neu trwy newid hynt y llong., ni a gyrhaeddasom i Rhegium#28:13 Yn y cwr pellaf o Itali, yn y de‐orllewin, ar y lán ddeheuol o gul‐for Messina. Yr oedd ar y cyntaf yn Drefedigaeth Roegaidd; dinystriwyd hi gan Dionysius, Llywodraethwr Syracus, ond ail‐adeiladwyd hi cyn hir, a daeth eto yn dref flodeuog. Ei henw presenol yw Reggio. Ceir llun Castor a Pollux ar rai bathion a ddarganfyddwyd yma.: ac ar ol un diwrnod cyfododd deheu‐wynt, ac ni a ddaethom yr eil‐ddydd i Puteoli#28:13 150 o filltiroedd o Rufain, a 180 o Rhegium, ar Fachwy Naples. Ei hen enw oedd Dicaearchia. Hwn oedd prif borthladd Rhufain, yn enwedig er dadlwytho yr yd o Alexandria. Gelwir y lle yn bresenol Pozzuoli. Yr oedd hefyd yn nodedig am ei darddelloedd mwnawl. Mewn cysylltiad a Puteoli y mae hanesyn dyddorol, yn dal perthynas a Merthyrdod Sant Ignatius, dysgybl Ioan. Pan ar ei daeth i gael ei ferthyru yn Rhufain, dygwyd ef i Puteoli, a dymunodd gael glanio, er mwyn dylyn yn nghamrau yr Apostol Paul yn ei fynediad i'r Brif Ddinas.: 14lle y cawsom frodyr#28:14 Yr oedd Cristionogaeth wedi lledaenu i Itali, fel i lawer o wledydd eraill. Efallai iddi gael ei dwyn yno gan Gredinwyr Dydd y Pentecost., a'n hanog i aros gyda hwynt saith#28:14 er treulio Sabbath gyda hwynt, er seibiant iddo ei hun, ac er adeiladaeth iddynt hwy. Cymharer ei hanes yn Troas, 20:6; Tyrus, 21:4. niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain#28:14 llyth: i Y Rhufain. Dyma gyrhaeddiad ucheledd ei ymgais. Y mae ei weddïau wedi eu hateb, ei freuddwydion wedi eu gwireddu, a gair Duw iddo wedi ei sylweddoli. Gadewir allan y fannod o flaen Rhufain yn ad 16. Yn yr adnod nesaf eir yn ol ychydig, er gwneyd cyfeiriad at y brodyr a ddaethant o Rufain i gyfarfod â Phaul. Yr oedd Luc mewn cymaint o frys i groniclo eu dyfodiad i'r ddinas fawr ag oedd Paul i'w gweled. (19:21; 23:11). Y Carcharor yn Rhufain sydd yn brophwydoliaeth fod rhyddid ar wawrio i'r byd.. 15Ac oddiyno y brodyr#28:15 Nid oes genym hanes am blaniad Cristionogaeth yn Rhufain. Yr oedd ‘dyeithriaid o Rufeinwyr’ yn Jerusalem ar Ddydd y Pentecost, a hwy, yn fwyaf tebygol, a aethant a goleuni yr Efengyl i Rufain. Yr oedd gan Paul amryw o gyfeillion yno, megys Acwila a Priscilla. Yr oeddent wedi derbyn ei Epistol atynt dair blynedd cyn hyn., wedi clywed am danom, a ddaethant i'n cyfarfod ni mor bell a Marchnad Appius#28:15 Neu Appii Fforum, 33 (yn ol rhai, 43) o filltiroedd o Rufain. Derbyniodd y dref fechan ei henw oddiwrth Appius Claudius, yr hwn a wnaeth y rhan hon o'r Ffordd fyd‐enwog. Gelwid hi ‘Brenhines y Ffyrdd,’ ar hyd yr hon y danfonai Rhufain ei byddinoedd i'r Deheu a'r Dwyrain yn eu cad‐ymdeithiau i oresgyn y byd. Yr oedd buddugoliaethau Alexander wedi parotoi iaith gyffredinol a holl‐gyfoethog i'r Efengyl. Groeg; yr oedd llongau yr Aipht wedi gwasanaethu i ddwyn Apostol y Cenhedloedd i Rufain; yr oedd yr Amherodraeth Rufeinig wedi parotoi prif‐ffyrdd i bob cyfeiriad, fel y gallai yr Efengyl i redeg ar hyd‐ddynt a chael gogonedd. Yr oedd ei Ffyrdd Milwrol yn is-wasanaethgar i gerbyd Tywysog Heddwch. Gwaith mawr Rhufain oedd ystrydoli Ewrop. Y mae Via Dolorosa (‘Ffordd Wylofus’) Crist wedi agor y Via Appia i Rufain, y Via Egnatia i Groeg, a phob ffordd arall i bedwar ban y byd. a'r Tair Tafarn#28:15 Lle bychan tua 23 (yn ol rhai. 33) o filltiroedd o Rufain. Golyga y gair Taberna, fasnachdy, nid yn unig lle y gwerthir bwyd a diod yn unig, ond nwyddau yn gyffredinol. Yr oedd ‘y brodyr’ yn Rhufain wedi clywed fod Paul wedi cyrhaedd Puteoli.: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd#28:15 am eu zel Cristionogol, eu derbyniad cynhes, ac am y ffaith ei fod ef yn awr yn gweled pen ei daith, a sylweddoliad ei uchelgais puraf a phenaf. i Dduw, ac a gymerodd galon#28:15 llyth: gwroldeb, hyfdra..
Paul yn Rhufain, 17–31.
16A phan ddaethom i Rufain#28:16 y Canwriad a roddes y Carcharorion at gapten y gwarchodlu, eithr HL; gad. א A B Brnd. ond Al., caniatawyd i Paul aros wrtho ei hun gyda y milwr#28:16 Ni olygir mai yr un milwr a wyliai yr Apostol yn wastadol. Felly, cafodd Paul gyfleustra i gymhell llawer o filwyr Rhufain i ddyfod yn ganlynwyr Tywysog Heddwch. Diamheu ei fod dan ofal Capten gwarchodlu y Pretorium. Aeth ei rwymau ‘yn amlwg trwy yr holl warchodlu Amherodrol.’ (Phil 1:13). oedd yn ei gadw ef. 17A dygwyddodd, ar ol tridiau#28:17 Ni chollodd amser cyn ymgymeryd a'i hoff waith., alw o hono#28:17 Paul HL; ef א A B Brnd. ef ynghyd ato ei hun y rhai oedd benaf#28:17 Neu, ‘y rhai oedd o'r Iuddewon yn gyntaf.’ Yr oedd yr Iuddewon yn lluosog iawn yn Rhufain. Gwnaeth 8,000 o honynt gefnogi y ddeiseb yn erbyn Archelaus. Yr oedd llawer o honynt wedi eu halltudio gan Claudius, ond cawsant ddychwelyd yn ystod y pum mlynedd cyntaf o deyrnasiad Nero. Y mae y ‘rhai penaf’ yma yn golygu, yn debygol, benau y Synagogau a'r dynion cyfoethog a dylanwadol yn eu plith. Y mae yr Apostol yn dal at ei hen arferiad o gynyg yr Efengyl i'r Iuddewon yn gyntaf oll. o'r Iuddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr#28:17 yr un cyfarchiad ag i'r Iuddewon yn Jerusalem, 23:1., heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y Bobl na defodau ein Tadau#28:17 Gweler rai cyhuddiadau, 21:21, 28, eto yn garcharor y'm rhoddwyd o Jerusalem i ddwylaw y Rhufeinwyr#28:17 Yn ol prophwydoliaeth Agabus, 21:11: 18y cyfryw, wedi iddynt fy holi, a ewyllysient#28:18 Lysias, 23:29; Ffelix, 24:23; Ffestus, 25:25; Agrippa, 26:32 fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd#28:18 ‘o'r dechreu,’ huparchein. dim achos angau ynof. 19Ond yr Iuddewon yn gwrth‐ddywedyd, fe'm gorfodwyd#28:19 Gweler 25:11. Yr oedd yr Iuddewon yn benderfynol o'i ladd. Gwnaethant ymgais at hyny lawer tro. i apelio at Cesar; nid fel petai genyf ddim#28:19 Nid oedd efe er yr holl erledigaeth fu arno, am ddwyn unrhyw gyhuddiad yn erbyn y Genedl. Gweithredai ar yr ymddiffynol, ac nid yr ymosodol. Nid oedd ynddo yspryd dial. Yr oedd hefyd yn cofio fod yr Iuddewon wedi dyoddef llawer eisoes oddi ar law y Rhufeinwyr. i gyhuddo fy nghenedl#28:19 ethnos yma, ei genedl ei hun, i'r hon y perthynai. Ni lefara am danynt fel laos, ‘Pobl Dduw.’ o hono. 20Am yr achos hwn gan hyny y gwahoddais#28:20 Neu, atolygais, deisyfais arnoch. chwi, i'ch gweled ac i ymddyddan a chwi#28:20 Neu, ‘yr atolygais arnoch i'm gweled ac ymddyddan a mi.’; canys o herwydd Gobaith#28:20 sef, Y Messia, fel yn 26:6. Efe oedd swm a sylwedd yr holl brophwydoliaethau a'r cysgodau. Israel yr wyf fi wedi fy rhwymo#28:20 llyth: ‘yr wyf wedi fy amgylchynu.’ Rhwymid y carcharorion Rhufeinig wrth filwyr. ‘Am ei fod yntau wedi ei amgylchu â gwendid,’ Heb 5:2 â'r gadwyn hon. 21A hwy a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau#28:21 Nid am fod malais yr Iuddewon wedi lleihau; oblegyd y mae malais fel y crocodil yn tyfu cyhyd ag y byddo byw, ond yr oedd Paul wedi bod am ddwy flynedd yn garcharor yn Cesarea, ac ni feddyliodd ei elynion yn Mhalestina yr apeliai at Cesar ac yr elai i Rufain. Gwnaeth Paul apelio tua diwedd tymhor ei garchariad yn Cesarea. Hefyd, y mae yn amlwg fod yr Iuddewon hyn yn llefaru yn bur ofalus, gan fod yn awyddus i wybod rhagor am yr Apostol a'i waith. o Judea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddiyno ddim drwg am danat di. 22Ond yr ydym ni yn ei hystyried yn iawn i glywed genyt ti beth yr ydwyt yn ei synied#28:22 Y mae phroneô yn cynwys y meddwl a'r galon, y deall a'r serch (Mat 16:23; Rhuf 8:5; 1 Cor 13:11, &c.). ‘Carem gael gwybod beth yw dy safle a'th ddaliadau.’: canys yn wir am y sect hon#28:22 Y mae yn amlwg fod Eglwys Gristionogol yn Rhufain ar y pryd, ond yr oedd yn naturiol i'r Iuddewon ‘penaf’ hyn ei hanwybyddu., y mae yn hyspys i ni fod yn mhob man#28:22 Y mae Cristionogaeth wedi lledaenu yn ddirfawr, ac wedi llwyddo yn mhob man yn ngwyneb gwrthwynebiad. ddywedyd yn ei herbyn#28:22 Cyflawniad o eiriau Symeon, Luc 2:34, ‘yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn.’ Yr oedd ffydd y credinwyr Rhufeinig yn adnabyddus ‘trwy y byd’ (Rhuf 1:8); ar yr un pryd yr oedd y byd yn erbyn y ffydd hon. Felly hefyd ysgrifenwyr y cyfnod hwn a rhai diweddarach: geilw Tacitus hi yn ‘ofergoeledd dinystriol,’ Suetonius yn ‘ofergoeledd newydd a niweidiol,’ Pliny yn ‘ofergoeledd llygredig ac eithafol.’ Yr oedd y ffaith fod un yn Gristion yn ddigon i'w gondemnio. Dyna yr unig gyhuddiad yn erbyn Polycarp pan y merthyrwyd ef. Pan y gosodwyd Attalus i farwolaeth yn Lyons, ysgrifenwyd uwch ei ben, ‘Hwn yw Attalus y Cristion.’ Gwnaeth Nero ddeddfu: Pwy bynag a gyffeso ei hun yn Gristion, gosoder ef i farwolaeth yn ddi‐ymdroi fel gelyn dynoliaeth..
23Ac wedi iddynt drefnu diwrnod iddo, daeth llawer#28:23 llyth: mwy; efallai yma i'w gymeryd yn llythyrenol, mwy o nifer na'r tro cyntaf. o honynt ato i'w lety#28:23 llyth: lle y croesewir un dyeithr; ar yr achlysur hwn, efallai, tŷ Priscilla ac Acwila; neu, ei dy cyflogedig ei hun (ad 30). Gwaherddid i'r Cristionogion gael temlau, &c., neu gyfarfod mewn lleoedd cyhoeddus.; i'r rhai yr eglurodd#28:23 llyth: gosod allan; yna, esponio, egluro. Un weithred mewn dwy agwedd oedd ‘yr egluro’ a'r ‘tystiolaethu.’ Dangosodd yr hyn oedd Cristionogaeth, ac yna profodd ei bod yn wir. efe gan dystiolaethu Teyrnas Dduw#28:23 yn ei Dwyfoldeb a'i hysprydolrwydd., a'u hargyhoeddi ynghylch#28:23 y pethau L; gad. א A B Brnd. yr Iesu, allan o Gyfraith Moses#28:23 gweler Gen 3:15; 49:10; Deut 18:15, ac o'r Prophwydi, o'r bore hyd yr hwyr#28:23 Ni arbedodd Paul ei hun yn ei ymgais a'i ymdrech i ddarbwyllo, i argyhoeddi ei gyd‐genedl. ‘Mewn tymhor ac allan o dymhor’ y llafuriodd efe.. 24A rhai yn wir a argyhoeddwyd#28:24 Yr un gair ag yn yr adnod olaf [peithó], perswadio, darbwyllo, argyhoeddi. Y mae yn debygol i'r mwyrif o'r rhai oedd yn bresenol i anghredu. Gweler y dyfyniad o Esaiah. Y mae delw geirwiredd ar yr adnod hon. Ni fuasai ffugiwr yn ei hysgrifenu. gan y pethau a ddywedwyd, a rhai ni chredasant. 25Ac a hwy yn anghytun#28:25 Term cerddorol [asumphónoi], yn anghydgordiol, anghydseiniol, anghyfunllef; yna, anghytun. a'u gilydd, hwy a ymadawsant#28:25 Amser anmherffaith, ‘yr oeddent yn ymadael,’ efallai, un ar ol y llall, y rhan fwyaf yn anufydd a gwrthnysig; ac fel yr oeddent yn ymadaw llefarodd Paul gan ddyfynu geiriau Esaiah., a Phaul yn dywedyd un#28:25 Neu, un mater [pwysig]. Yr oeddent wedi ymddyddan ac ymddadleu trwy y dydd, ond wele air terfynol. Un gair ar ol yr holl eiriau, a hwnw o'u Hysgrythyr eu hunain, gan brofi fod Duw wedi rhagweled a rhaglefaru eu hanghrediniaeth a'u gwrthodiad o'r Efengyl; yr hwn wrthodiad felly oedd yn brawf o'i Dwyfoldeb. gair, Da#28:25 llyth: prydferth, hardd, yna, priodol, cywir, cymhwys. y llefarodd yr Yspryd Glân#28:25 Yr Yspryd oedd yn llefaru trwy y Prophwyd. Efe yw Awdwr mawr ac anffaeledig yr Ysgrythyr. trwy Esaiah y Prophwyd wrth eich#28:25 Y mae Paul o'r diwedd yn ymwahanu oddiwrthynt. Yr oedd wedi hunaniaethu ei hun â hwynt hyd nes y gwrthodasant Grist yn derfynol. Felly Stephan: yn ei araeth, defnyddiodd ‘ein’ naw o weithiau (7:2, 11, 12, 15, 19, 38, 39, 44, 45), ond ar y diwedd, yn ei gyhuddiad pwysig, defnyddia ‘eich’ ac nid ‘ein.’#28:25 eich א A B Brnd.; ein H L, amryw hen gyfieithiadau. Tadau, 26gan ddywedyd,
Dos#28:26 Y mae y dyfyniad hwn bron yn hollol fel y mae yn Nghyfieithiad y Deg‐a‐Thri‐Ugain [LXX.]. Dyfynir yr adran hon yn fwy mynych nag un arall o'r Hen Destament. Ceir y geiriau hyn yn y chwe llyfr cyntaf o'r Testament Newydd (Mat 13:14; Marc 4:12; Luc 8:10; Ioan 12:40; Act 28:26, 27; Rhuf 11:8). Llefarwyd hwynt wrth Esaiah pan y rhoddwyd iddo ei gommissiwn, wedi ei weledigaeth ryfeddol o Jehofa yn ei Deml. Sicrhawyd ef ar gychwyniad ei ‘weinidogaeth’ na fyddai yn llwyddianus. at y Bobl hyn, a dywed,
Trwy glywed#28:26 llyth: trwy y clywediad, trwy y clust. y clywch, ac ni ddeallwch o gwbl#28:26 ou mê, gwadiad cryf.;
A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch o gwbl:
27Canys brashawyd#28:27 tewychwyd; yna, a wnaed yn hurt, delffaidd, fel ag i fethu clywed a gweled a deall fel y dylent. Yn Esaiah, pwysleisir gwaith y Prophwyd, yn Ioan weithred Duw, ac yn Matthew weithred y Bobl eu hunain. Yr oedd y Prophwyd i'w caledu, yr oedd Duw yn eu caledu, yr oeddent yn caledu eu hunain; — yr un weithred o dan wahanol agweddau. calon y Bobl hyn#28:27 Nid mwyach ‘Fy mhobl’; y mae y berthynas rhyngddynt â Duw wedi ei thori.,
Ac a'u clustiau yn drwm y clywsant,
A'u llygaid a gauasant,
Rhag canfod o honynt â'u llygaid,
A chlywed â'u clustiau,
A deall â'u calon,
A throi o honynt drachefn,
Ac iachâu o honof hwynt#Es 6:9, 10; LXX.
28-29Bydded hyspys i chwi gan hyny#28:28–29 ‘o herwydd eich anghrediniaeth.’ fod yr Iachawdwriaeth#28:28–29 Nid y gair arferol [sôteria] ond ffurf a ddefnyddir gan Luc a Paul yn unig [sôterion, Luc 2:30; 3:6; Eph 6:17]. Ansoddair ydyw, yr hyn sydd iachusol, iachawdwriaethol. Ni olyga yr Athrawiaeth Gristionogol yn gymaint a'r Iachawdwriaeth hollol sydd trwy y Messia. hon#28:28–29 hon א A B Brnd.; gad. E. o eiddo Duw wedi ei danfon i'r Cenhedloedd: a hwy a wrandawant#28:28–29 Neu, a glywant; ond y mae ‘y clywed o honynt’ yn gynwysedig yn y ‘danfon.’ Cawsai y Cenhedloedd glywed y genadwri, a gwrandawent arni, hyny yw, credent iddi. Yr oedd Paul wedi rhoddi digon o rybudd i'r Iuddewon: dywedodd wrthynt yn Antioch ei fod yn myned, o herwydd eu gwrthodiad o Grist, at y Cenhedloedd, 13:46; hefyd yn Corinth, 18:6; ac yn awr yn Rhufain; felly rhybuddiodd hwynt yn Asia, yn Groeg, ac yn yr Ital. Yn awr, yr oedd Paul wedi cyrhaedd prif dref y Cenhedloedd, Rhufain. Efe oedd y cyntaf, os nid yr unig un o'r Apostolion i fyned yno.#28:28–29 Fel y gwelir, gadewir allan adnod 29 yn y prif ysgrifau. Efallai iddi gael ei hychwanegu o herwydd fod yr hanes yn diweddu mor sydyn.#28:28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, ymadawodd yr Iuddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith eu hunain H.; gad. א A B Brnd..
30Ac efe#28:30 efe א A B E Brnd.; Paul H L. a arosodd ddwy flynedd gyfan#28:30 llyth: yspaid‐o‐ddwy‐flynedd, un gair cyfansawdd, yr un gair ag yn 24:27 yn ei dy ardrethol#28:30 Nid yw yn debygol mai yr un oedd y ty ardrethol hwn a'r ‘llety’ yn adnod 23. Efallai mai ty cyfaill oedd yr olaf. ei hun, ac a roesawodd#28:30 ‘a dderbyniodd fel ymwelwyr,’ fel gwahoddedigion; yna derbyn yn roesawgar. Rhai a farnant na chaniateid i Paul fyned allan atynt hwy. Gwnaeth ‘eglwys’ neu ‘addoldy’ o'i dy ei hun, yr hyn y dylai pob cartref Cristionogol fod. bawb a oedd yn myned i mewn ato, 31gan bregethu Teyrnas#28:31 Teyrnas Dduw yn nghanolfan yr Amheroaraeth fawr. Dduw, a dysgu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist#28:31 fel yn mhob man arall, ni wyddai ddim yn Rhufain, ond Iesu Grist. Efe oedd dechreu ei weinidogaeth, ‘Ac yn ebrwydd yn y Synagogau efe a bregethodd Grist,’ 9:20, ac yma ‘yr Arglwydd Iesu Grist’ yw ei destyn. Ei Alpha a'i Omega yw y Ceidwad., gyda phob hyfder#28:31 neu hyder. Felly y llefarodd Petr ac Ioan (4:13, 29, 31). Yr oedd gweinidogaeth yr Apostolion yn syml, yn hyf, yn egniol., yn ddirwystr#28:31 Wele ddiwedd dyddorol i'r Traethawd ardderchocaf yn cynwys hanes y cyfnod rhyfeddaf a berthyn i Eglwys Dduw. Disgyna y llen yn sydyn pan y sylldremwn ar ac yr edmygwn yr Apostol yn brysur ac yn ddiflino wrth ei waith. Yr ydym wedi ymhyfrydu yn ei gwmni, a ffarweliwn ag ef gyda hiraeth. Dwy flynedd oedd y rhai hyn yn llawn o lafur ac o ddedwyddwch er gwaethaf y cadwynau. Yn yr adeg hon yr ysgrifenodd yr Epistolau at y Philippiaid, y Colossiaid, yr Ephesiaid, a Philemon, ac yn y gipolwg olaf a gawn arno gwelwn ei wedd yn oleuedig gan hyder, ei lygad yn fywiog gan yni, a phob ysgogiad yn amlygiad o enaid ar dân gan Gariad Crist. Gorphena Luc ei Ail Draethawd yn orfoleddus. Y fath wahaniaeth rhwng diweddglo llyfrau yr Hen Destament a'r Newydd! Melldith a bygwth yw eiddo y blaenaf yn fynych; ond bendith a llawenydd yw eiddo yr olaf. ‘Duw a ddwg bob gweithred i farn,’ medd y Diarhebion; ‘Eu pryf ni fydd marw, a'u tân ni ddiffydd,’ meddai Esaiah; ‘Ti a'n llwyr wrthodaist ni,’ meddai Jeremiah; melldith yw y gair olaf yn nghyfrol y Prophwydi Byrion; ond buddugoliaeth yw ‘Amen’ llyfrau y Newydd. ‘Yr oeddent yn wastadol yn y Deml yn moli ac yn bendithio Duw’ yw diwedd Efengyl Luc; ‘Yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd,’ yw eiddo Matthew; ‘Yr Arglwydd yn cyd‐weithio ac yn cadarnhâu y gair, trwy yr arwyddion y rhai oedd yn canlyn,’ yw eiddo Marc; ac nid yw y rhai hyn ond esiampl o lawer eraill. Amcan Luc oedd rhoddi hanes Planiad Cristionogaeth ac nid bywgraphiad o Paul. Nid ydym yn sicr beth ddaeth o Paul ar ol hyn. Y mae hen draddodiad iddo gael ei ddwyn i brawf ar ddiwedd y ddwy flynedd a nodir yma, ac iddo gael ei ryddhâu. Mewn canlyniad, aeth allan drachefn ar deithiau cenadol, ac ymwelodd a lleoedd fel Macedonia, Achaia, ac Asia. Ar ol hyn, cafodd ei gymeryd yn garcharor drachefn, a gorphenodd ei yrfa trwy ferthyrdod yn y Ddinas Amherodrol. Dywed Eusebius fod yr Ail Epistol at Timotheus wedi ei ysgrifenu o Rufain yn ystod ei Ail Arosiad yno, a bod Paul yn cyfeirio ynddo at ei brawf cyntaf a'i ryddhâd, ‘Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi … ac mi a waredwyd o enau y llew’ (4:16, 17), ac hefyd yn cyfeirio at y merthyrdod oedd yn ei aros, ‘Canys myfi yr awrhon a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a neshâodd,’ (4:6). Y mae cyfeiriadau yn yr Epistolau Bugeiliol at ymweliadau a gymerasant le yn ddiweddarach na'r rhai a enwir yn yr Actau. Nid oes sail i ddamcaniaeth Wieseler fod y rhai hyn yn cyfeirio at ymweliadau Paul yn ystod ei arosiad o dair blynedd yn Ephesus. (gweler 1 Tim 1:3; 2 Tim 4:20; Titus 1:5; 3:12). Y mae llawer y resymau yn ffafr yr hyn a gredasid gan y Tâdau fod Paul wedi ei garcharu yr ail waith, ac yn y diwedd wedi derbyn coron merthyrdod yn Rhufain. Beth bynag am hyny, yr olwg olaf a gawn ni arno yma yw yn ei ‘dy ardrethol’ ei hun; efallai nad oedd ond ystafell fechan a syml. Dylynwn yn ei gamrau, hyd nes y cawn ei gwrddyd eto yn y ‘Tŷ o lawer o Drigfanau.’.
सध्या निवडलेले:
Actau 28: CTE
ठळक
कॉपी करा
तुलना करा
सामायिक करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.