Actau 18
18
Paul yn Corinth: yr Iuddewon yn ymosod arno, 1–17.
1Ar ol y pethau hyn, efe#18:1 Paul A E; gad. א A B Brnd. a ymadawodd#18:1 llyth: efe a wahanwyd. o Athen, ac a ddaeth i Corinth#18:1 Prif‐ddinas Achaia, ar y cul‐dir a gysylltai y Peloponnesus a'r rhan ogleddol o'r wlad. Yr oedd Corinth yn enwog fel canol‐fan masnach, fel yr oedd Athen yn gartrefle gwyddoniaeth a chelfyddyd. Yr oedd iddi ddau borthladd, Cenchrea ar y tu dwyreiniol, a Lecheum ar yr ochr orllewinol. Ni enwir yr olaf yn y T.N. Yr oedd Corinth hefyd yn nodedig am y campau Isthmiaidd, at y rhai y cyfeiria Paul yn fynych yn ei Epistolau fel eglurebau (1 Cor 9:24–27). Venus oedd duwies benaf y dref anfoesol, yr hon oedd yn llawn o drythyllwch. Yr oedd ei theml ar yr Acrocorinthus, bryn a gyfodai tua 2,000 o droedfeddi uwchlaw y gwastad‐dir. Yr oedd ‘Corintheiddio’ wedi dyfod yn air cyffredin am un a arweiniai fywyd anniwair. Dinystriwyd y ddinas gan Mummius, y Cadfridog Rhufeinig, 146 C.C.; ail‐adeiladwyd a gwnawd hi yn drefedigaeth gan Cesar. Yma yn awr yr oedd sedd y Rhaglaw.; 2ac wedi iddo gael rhyw Iuddew o'r enw Acwila#18:2 Enw Rhufeinig, ‘Eryr.’ Mabwysiadai yr Iuddewon enwau Lladin, &c., yn enwedig os preswylient tu allan i Balestina. Ganwyd Acwila arall, cyfieithydd yr Hen Destament i'r Groeg, yn Pontus. Efallai i Acwila a Priscilla gael eu hargyhoeddi gan y rhai oeddent bresenol o Pontus ar Ddydd y Pentecost (2:10). Yr oeddent wedi dychwelyd i Rufain pan yr ymwelodd Paul a Chorinth yr ail waith (Rhuf 16:3), ac yr oeddent gydag ef yn Ephesus pan yr ysgrifenodd at y ‘Corinthiaid’ (1 Cor 16:9)., un o Pontus o genedl, wedi newydd#18:2 prosphatôs, llyth: peth newydd ei ladd, felly, ffres, diweddar, newydd. Yma yn unig yn y T.N. Y mae yr ansoddair yn Heb 10:20. ddyfod o'r Eidal, a Priscilla#18:2 bychanigyn o Prisca (cymharer Drusilla). Defnyddir Prisca yn 2 Tim 4:19. Rhoddir ei henw yn fynych o flaen eiddo Acwila (ad 18; Rhuf 16:3; 2 Tim 4:9). Tebygol eu bod ill dau yn Gristionogion cyn i Paul fyned i aros gyda hwy. Yr oeddent o gyffelyb yspryd yn ogystal ag o gyffelyb alwedigaeth fydol. ei wraig, am orchymyn o Claudius#18:2 Yr oedd Claudius yn Amherawdwr o 41 hyd 54 B.H. Dywed Suetonius i'r Iuddewon gael eu halltudio o herwydd iddynt gyfodi terfysg trwy gymhelliad un Chrestus. Nid ydyw yn anhebyg mai Christus, ‘Crist,’ a olygid, a bod y cyfryw wedi cymeryd lle o achos ymosodiadau yr Iuddewon ar y Cristionogion. Y mae yn amlwg i'r gorchymyn hwn fod mewn grym ond am dymhor byr. i'r holl Iuddewon ymadael o Rufain, efe a ddaeth atynt. 3Ac o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd#18:3 Yr oedd pawb yn mhlith yr Iuddewon yn dysgu crefft. Dywedid os na wnelai tad ddwyn i fyny ei fab yn grefftwr ei fod yn ei barotoi i fod yn lleidr. ‘Yr hwn na weithia na fwytaed.’ Yr oedd y prif Rabbiniaid yn gweithio wrth eu celfyddyd. Yr oedd Hillel yn dorwr coed, a Shammai yn saer., efe a arosodd gyda â hwynt, ac a#18:3 a weithiasant א B Ti. WH. Diw.; a weithiodd A D E Tr. Al. weithiasant; canys yr oeddent yn wneuthurwyr pebyll#18:3 llyth: pebyll‐wneuthurwyr. Nid gweithwyr mewn lledr’ (Chrysostom), na ‘gwneuthurwyr offerynau celf’ (Michaelis). Yr oedd Cilicia yn enwog am ei geifr, o flew y rhai y gwnelid defnydd pebyll, &c.; ond nid gwneuthurwr y defnydd, ond pebyll oedd Paul. Cyfeiria at weithio a'i ddwylaw yn 20:34; 1 Thess 2:9; 2 Thess 3:8; 1 Cor 4:12 wrth eu celfyddyd. 4Ac efe a ymresymodd#18:4 Gwel 17:2, 17 yn y Synagog bob Sabbath, ac a argyhoeddodd#18:4 llyth: adarbwyilodd, perswadioda. Iuddewon a Groegiaid.
5A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Macedonia#18:5 Yr oedd Paul yn eu disgwyl o Berea pan yn Athen, ond oherwydd i Timotheus fyned i Thessalonica i gadarnhau yr Eglwys, daethant at yr Apostol wedi iddo fod dalm o amser yn Corinth., yr oedd Paul yn cael ei ddirgymhell#18:5 Nid yn gymaint wedi iddynt gyrhaedd, ond cawsant ef a'r ‘tân pregethwrol yn llosgi yn ei fynwes.’ Hefyd daethant a chynorthwy iddo o Eglwys haelionus Philippi (2 Cor 11:8, 9); ac nid oedd cymaint o anghen iddo weithio a'i ddwylaw. Yr oedd yn cael ei ‘ddal yn dyn’ gan y Gair. Pan yr oedd ei law ef yn y babell, yr oedd llaw y Gair yn dal ei afael ynddo ef. Defnyddia Crist yr un gair ‘Mor gyfyng yw arnaf,’ &c. (Luc 12:50); hefyd Paul, ‘Y mae yn gyfyng arnaf o'r deu‐tu’ (Phil 1:23). Pregethwr angerddol yw yr hwn y cyfyngir arno. Y mae fel y rhaiadr nerthol rhwng dwy graig uchel yn llifo gyda grymusder anwrthwynebol. gan y Gair, gan dystiolaethu i'r Iuddewon mai Iesu oedd y Crist. 6Ac a hwy yn gosod#18:6 term milwrol, ‘yn ymfyddino yn ei erbyn,’ ‘gosod eu hunain mewn trefn,’ gan ddangos rhag‐fwriad, a dichell, a malais. eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu#18:6 Neu, yn difenwi; cablu Crist, difenwi yr Apostol., efe a ysgydwodd#18:6 Gweler 13:51; Neh 5:13 allan ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Y mae eich gwaed ar eich pen eich hun#18:6 Nid melldith yw y frawddeg, ond dadganiad difrifol o'u cyfrifoldeb eu hun, a rhybudd dwys am y dyfodol. Gwel 2 Sam 1:16; 1 Bren 2:37; Ez 33:4 Golyga ‘gwaed’ yma ‘ddinystr.’: glân wyf fi; o hyn allan#18:6 sef yn Corinth. Aeth yn ol ei hen arfer i'r Synagog yn Ephesus (gweler 28:28). af at y Cenhedloedd. 7Ac efe a symudodd oddiyno#18:7 Nid o dy Acwila, ond o'r Synagog., ac a aeth i dy#18:7 Nid yn gymaint i aros ond i bregethu. Ni wyddis pwy oedd y Justus hwn. Nid yr un a Titus, cymdeithydd Paul, neu yr hwn yr ysgrifenodd Paul lythyr ato (2 Cor 12:18) Ni enwir Titus yn yr Actau. un o'r enw Titius Justus, un yn addoli#18:7 sef, proselyt y Porth. Duw, ty yr hwn oedd yn cyffwrdd a'r Synagog. 8A Crispus yr Arch‐synagogydd#18:8 Tebygol yw fod mwy nag un ‘arch‐synagogydd’ yn perthyn i'r Synagog. Yr oedd Sosthenes yn un o'r llywodraethwyr. Yr oedd yn Corinth ‘Gynghor o Henuriaid.’ Ni wnaeth Paul fedyddio ond dau yn Corinth, sef Crispus a Gaius, a theulu Stephanas (1 Cor 1:14). a gredodd yn yr Arglwydd ynghyd a'i holl deulu; a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant ac a fedyddiwyd. 9A'r Arglwydd#18:9 sef yr Arglwydd Iesu. a ddywedodd yn y nos trwy weledigaeth#18:9 Gwel 16:9. Ymddangosodd ‘gwr o Macedonia’ i Paul, gan geisio ganddo ddyfod trosodd i'w cynorthwyo. Yr oedd Groeg yn ranedig i ddwy dalaeth, Macedonia ac Achaia; Corinth oedd prif‐ddinas yr olaf; felly y mae yr ail weledigaeth hon, pa un a ymddangosodd person neu beidio, yn anogaeth i Paul i lafurio yn y rhan bwysig hon o Groeg. Yr oedd blaenffrwyth Achaia eisoes wedi ei gasglu. Y mae pob gwir was i Iesu Grist yn cael gweledigaethau. Buasai y bywyd crefyddol yn dlawd a gwan hebddynt. wrth Paul, Nac ofna#18:9 Nid oes genym enghraifft i Paul lwfrhau; ond yr oedd wedi ei siomi yn Athen; ond y mae yr awr dywyllaf cyn toriad y wawr. Y mae afradloniaid Corinth i ddyfod at eu Tâd, pan y mae athronwyr coeg‐falch Athen yn cadw draw., eithr llefara, ac na thaw: canys yr wyf fi gyda thi, 10ac ni ymesyd#18:10 llyth: gosod ar (megys dwylaw, baich, iau). Defnyddir y ferf yma yn yr ystyr ganolog, ymosod. (Gen 43:18). neb arnat fel i'th ddrygu#18:10 Gwnawd llawer ymosodiad, ond ni ddrygwyd yr Apostol. Daeth gorthrymder, ond ddim drygder.: canys pobl#18:10 laos, y bobl etholedig; hen enw yr Israel, ond yn awr yn cael ei gymhwyso i'r Israel ysprydol. lawer sydd genyf yn y Ddinas hon. 11Ac efe a arosodd#18:11 llyth: a eisteddodd, gan gyfleu, efallai, y meddylddrych ei fod yn parhau i athrawiaethu. Eisteddai y dysgawdwyr. yno flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith Air Duw#18:11 Ysgrifenodd Paul ei Epistolau at y Thessaloniaid yn yr adeg hon.. 12A phan oedd Gallio#18:12 Yr oedd Gallio yn frawd i Seneca, yr athronydd enwog, ac athraw Nero. Ei enw gwreiddiol oedd Marcus Annæus Novatus, ond mabwysiadwyd ef gan Lucius Junius Gallio, yr areithiwr nodedig, ac felly cymerodd yr enw Gallio. Yr oedd Lucan y bardd yn nai iddo. Dywedodd ei frawd am dano nad oedd neb mor anwyl iddo ef ac yr oedd Gallio gan bawb. Yr oedd Achaia yr amser hwn wedi ei rhoddi yn ol gan Claudius i ofal ac awdurdod y Senedd, ac felly yr oedd yn dalaeth Seneddol, yn cael ei llywodraethu gan y pro‐consul. Gwelwn gywirdeb Luc yn mhob rhan o'r hanes. yn Rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iuddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dygasant ef at y frawd‐le#18:12 Gwel 7:5; 12:21., gan ddywedyd, 13Y mae hwn yn darbwyllo dynion i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith#18:13 Nid i Gyfraith Rhufain, ond i'w Cyfraith gydnabyddedig hwy. Y mae ateb Gallio yn profi hyn.. 14A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Gallio#18:14 Gwelodd Gallio nad oedd ganddynt gwyn cyfreithlon a digonol. Yr oedd efe yn ymgorphoriad o'r Rhufeiniwr teg a chyfiawn. wrth yr Iuddewon, Pe buasai yn wir yn fater o gam#18:14 adikema, mater o gam, peth anghyfiawn, yr hyn y gellid ei wneyd yn fater o gwyn mewn llys. neu o ddrwg ystryw#18:14 Gwel 13:10., O Iuddewon, wrth reswm mi a gyd‐ddygaswn a chwi; 15eithr os cwestiynau ydynt am Ymadrodd ac Enwau#18:15 Yr oedd Gallio wedi eu clywed yn defnyddio y geiriau Iesu, Crist, Messia, &c. Nid oedd unrhyw niwed nac arwyddocâd yn y rhai hyn iddo ef. Ffeithiau ac nid geiriau, gweithredoedd ac nid ymadroddion, oedd yn bwysig yn ngolwg y Rhaglaw. a Chyfraith sydd yn perthyn i chwi, edrychwch eich hunain: ni ewyllysiaf fi fod yn farnwr y pethau hyn. 16Ac efe a'u gyrodd hwynt oddiwrth y frawdle. 17A hwynt oll#18:17 Holl Roegwyr D E; oll א A B Brnd., wedi cymeryd gafael yn Sosthenes#18:17 Nid yr un a Sosthenes a enwir yn 1 Cor 1:1. Yr oedd hwn yn arweiniwr y blaid oedd wrthwynebol i Paul. Y Cenhedloedd neu y ‘Groegwyr’ oedd y rhai, yn ddiameu, a gurasant Sosthenes. Cymerodd y dyrfa fantais ar ymddygiad y Rhaglaw tuag atynt. Nid oeddent mewn ffafr gan y Rhaglawiaid na'r bobl. Alltudiodd Tiberius 4,000 o honynt i Sardinia, gan ddywedyd os byddai i'r hinsawdd eu lladd, goreu i gyd., yr Arch‐synagogydd, a'i curasant ef o flaen y frawdle. Ac nid oedd Gallio yn gofalu am ddim o'r pethau hyn#18:17 llyth: Ac nid oedd dim o'r pethau hyn yn fater gofal i Gallio..
Dychweliad Paul i Jerusalem, Antioch, ac Asia Leiaf, 18–23.
18Eithr Paul, wedi aros yn mlaen ddyddiau lawer#18:18 llyth: ddigon., a ganodd yn iach#18:18 Am apotassesthai, ffarwellio, &c., gweler Cyf. 1:289. i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscilla ac Acwila, wedi iddo#18:18 Rhai a gysylltant yr adduned ag Acwila, ac nid â Phaul, gan mai Acwila a enwir olaf, a bod y weithred a grybwyllir yn cyfeirio yn naturiol tuag ato; ond y mae yn fwy tebygol mai Paul oedd wedi gwneyd yr adduned. Enwir Acwila o flaen Priscilla yn adnodau 2, 6, ond y mae yn dylyn yn ad. 26 a Rhuf 16:3, a 2 Tim 4:19. Felly ni enwir Acwila yma yn olaf er mwyn desgrifiad o'r adduned. Beth oedd natur yr adduned a wnaeth nis gwyddis. Efallai ei bod o natur yr un Nazareaidd (Num 6:1–21), os nad oedd yn un bersonol a neillduol (Gen 28:20; Lef 27:2; Deut 23:21; 1 Sam 1:11, &c.), yn arwydd o'i ddiolchgarwch i Dduw am ei ofal drosto yn Corinth. yn Cenchrea#18:18 Porthladd dwyreiniol Corinth, naw milltir o'r ddinas. gneifio ei ben, canys yr oedd arno adduned. 19A hwy#18:19 א A B E Brnd.; ac wedi iddo gyrhaedd D. a gyrhaeddasant i Ephesus#18:19 yn Ionia, prif‐ddinas Asia fel y dalaeth Rufeinig dan raglaw (consul), ar yr afon Cayster, ar ael bryn, 35 milltir i'r gogledd o Miletus, 40 i'r deheu o Smyrna, 100 i'r gorllewin o Laodicea, a 5 o'r Môr Ægeaidd. Teml Diana [Artemis] oedd ei rhyfeddod penaf. Daeth cyn hir yn brif‐ddinas Gristionogol Asia., ac efe a'u gadawodd#18:19 Y meddwl yw i Paul barhau ar ei daith, ar ol aros ond ychydig yn Ephesus, ond tra yno, desgrifir ei arferiad o ymresymu â'r Iuddewon. hwynt yno: eithr efe ei hun a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ymresymodd a'r Iuddewon; 20a phan ofynasant iddo aros am fwy o amser#18:20 gyda hwy D E; gad א A B Brnd., ni chydsyniodd#18:20 llyth: amneidio a'r pen, pen‐oblygu, yna, cyd‐synio., 21ond gan#18:21 Efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Anghenrhaid hollol yw i mi dreulio yr wyl sydd yn dyfod yn Jerusalem D G H. Al.; gad א A B E Ti. Tr. WH. Diw. Y mae Meyer yn tueddu i adael yr ymadrodd yn y Testyn. Os yn ddilys, cyfeiria yr wyl at ‘y Pentecost.’ ganu yn iach iddynt, a dywedyd, Drachefn mi a ddychwelaf atoch, os Duw a'i myn, hwyliodd ymaith o Ephesus. 22A phan laniodd#18:22 llyth: dyfod i lawr [o fwrdd y llong] i Cesarea. efe yn Cesarea, a myned i fyny a chyfarch yr eglwys#18:22 Nid yr eglwys yn Cesarea, ond yn Jerusalem. Barna rhai i Paul gael derbyniad oer, ac iddo frysio ei ymadawiad. Nid oes sail ddigonol i hyn, er y synir fod yr hanes mor fyr., efe a aeth i waered i Antioch#18:22 Anmhriodol fuasai dywedyd, ‘Aeth i waered o Cesarea i Antioch,’ gan fod yr olaf 20 milltir o'r môr, ac yn sefyll yn uwch na Cesarea. Wele Paul yn gorphen ei ail daith genadol yn y lle y cychwynodd, — Antioch. Cymerodd tua thair blynedd. Ymwelodd a rhai eglwysi, planodd eraill, megys yn Phrygia a Galatia, yn Philippi, Thessalonica, Berea, Corinth. Bu am 18 mis yn Ephesus.. 23Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymaith, gan fyned trwy wlad Galatia#18:23 Gwel 16:6, ond yma enwir hwy yn y drefn wahanol. a Phrygia mewn trefn, gan gadarnhau yr holl ddysgyblion.
Apollos, 24–28.
24A rhyw Iuddew, o'r enw Apollos#18:24 Apollos, byr o Apollonius neu Apollodorus. Cymharer Epaphras ac Epaphroditus; hefyd, Artemas, Demas, Lucas, &c. Nis gwyddom ddim am ei hanes boreuol. Llafuriodd yn llwyddianus yn Corinth. Yr oedd gyda Paul pan yr ysgrifenodd yr Apostol ei Lythyr Cyntaf at y Corinthiaid (1 Cor 16:12). Y cyfeiriad olaf ato geir yn Titus 3:13. Dywed traddodiad iddo gael ei wneyd yn esgob Cesarea.#18:24 Apollônios D., Alexandriad#18:24 Am Alexandria, gweler ar 6:9. Yr oedd yn nodedig am ei hysgolion, ac yn ganol‐bwynt efrydiaeth o gyfundrefnau Groeg a'r Dwyrain. Yma yr oedd Ysgol Philo, yr hwn a hynododd ei hun yn benaf trwy ei Athrawiaeth o'r Logos. Yr oedd yr Iuddewon yn lluosog yn y ddinas, a chanddynt Lywodraethwr o'u heiddo eu hunain. o genedl, gwr ymadroddus#18:24 logios, un yn alluog i osod allan (1) ffeithiau fel hanesydd, neu (2) resymau fel areithydd. Dynoda y gair ddysgeidiaeth neu hyawdledd, gan y golyga logos, o'r hwn y deillia, reswm neu ymadrodd. Defnyddir y gair am Hermes (neu Mercuri) fel duw hyawdledd. Dangosir fod Apollos yn ‘ddysgedig’ yn y frawddeg nesaf; felly, yma, hyawdl, ymadroddus., a ddaeth i Ephesus, gan fod yn alluog yn yr Ysgrythyrau: 25yr hwn oedd wedi ei egwyddori#18:25 Katëcheo, addysgu ar lafar trwy ofyn ac ateb, gan ddynodi addysg elfenol, &c. O hwn y daw gair Catecism, gweler Luc 1:4. yn ffordd yr Arglwydd#18:25 Defnyddir y frawddeg am weinidogaeth Ioan Fedyddiwr (Mat 3:3; Marc 1:3, &c.). Arglwydd, Duw Dad ac nid yn gymaint Iesu Grist.; a chan fod yn danbaid#18:25 zeô, berwi gan wres, bod yn boeth, yn frwd, ‘a chan ymferwi drosodd.’ yn yr yspryd llefarai a dysgai yn gywir y pethau am yr Iesu#18:25 Newidiwyd ‘Iesu’ i ‘Arglwydd’ yn y llawysgrifau diweddaraf oherwydd y dybiaeth na wyddai Apollos ond ychydig am yr Iesu; ond gwyddai y brophwydoliaeth am dano, ei hanes hyd ei fedd, a'i neges yn y byd; er ei fod yn anwybodus efallai o esgyniad Crist, o dywalltiad yr Yspryd, &c. Yr oedd ei ddygiad i fyny yn Alexandria yn ddigon i gyfrif am hyn.#18:25 Iesu א A B D E Brnd.; Arglwydd H., gan fod yn gydnabyddus#18:25 epistamai, dyfod i gydnabyddiaeth, yna, gwybod, gwybod yn dda. a Bedydd#18:25 Nid yn unig yr ordinhâd, ond holl weinidogaeth Ioan, o'r hon yr oedd ei fedydd yn arwyddocâol. Ioan yn unig. 26Hwn hefyd a ddechreuodd lefaru yn hyf#18:26 Gweler 9:27, 29; 14:3. yn y Synagog: a phan glywodd Priscilla#18:26 Priscilla ac Acwila א A B E Brnd.; Acwila a Priscilla D. ac Acwila ef, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a esboniasant#18:26 llyth: a osodasant allan, a eglurasant. iddo ffordd Duw yn fwy cywir. 27A phan yr oedd efe yn ewyllysio myned trosodd i Achaia, y brodyr a'i cymhellasant#18:27 protrepô, troi yn mlaen, yna, cymhell yn mlaen, cynghori, cefnogi, calonogi. Anog Apollos yn hytrach a wnaeth ‘y brodyr,’ ac nid y dysgyblion yn Achaia. yn mlaen, ac a ysgrifenasant#18:27 Dyma y ‘llythyr gollyngdod’ neu ‘o gymeradwyaeth’ cyntaf. at y dysgyblion i'w roesawu ef; ac efe, wedi cyrhaedd, a gynorthwyodd#18:27 sunballomai, taflu ynghyd, cyfranu, bod yn llesol i, cynorthwyo. Taflodd ei hun i'r gwaith gyda hwy. Gweler Luc 2:19; Act 4:15; 17:18. lawer ar y rhai oeddent wedi credu, trwy ras#18:27 h.y. ‘efe a gynorthwyodd, trwy ras, y rhai,’ &c., ac nid ‘y rhai oedd wedi credu trwy ras.’; 28canys yn egniol#18:28 atonôs, yn estynedig allan i'w i'w lawn hya [S. full stretch], felly, ar ei eithaf, yn egniol. y profodd#18:28 berf gyfansawdd, profi yn hollol [dia] yn erbyn [kata]; dymchwel trwy brawf, gorchfygu mewn dadl. yn drwyadl yn erbyn yr Iuddewon yn gyhoeddus#18:28 Nid yn unig yn y Synagog, ond mewn cyfarfodydd eraill., gan ddangos trwy yr Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist.
सध्या निवडलेले:
Actau 18: CTE
ठळक
कॉपी करा
तुलना करा
सामायिक करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.