Mathew 4

4
Y Temtiad
1Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan y diafol. 2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. 3A’r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, ‘Os Mab Duw wyt ti, arch i’r cerrig hyn fod yn fara.’ 4Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, ‘Y mae’n ysgrifenedig, “Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.”’#Deuteronomium 8:3
5Yna y cymerth y diafol ef i’r ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar binacl y deml, 6ac a ddywedodd wrtho, ‘Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys y mae’n ysgrifenedig:
“Rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat;
a hwy a’th ddygant yn eu dwylo,
rhag taro ohonot dy droed wrth garreg.”’#Salm 91:11, 12
7Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Ysgrifenedig yw drachefn, “Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.”’#Deuteronomium 6:16
8Trachefn y cymerth y diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant, 9ac a ddywedodd wrtho, ‘Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i.’ 10Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Dos yn fy ôl i, Satan; canys ysgrifennwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.”’#Deuteronomium 6:13 11Yna y gadawodd y diafol ef; ac wele, angylion a ddaethant ac a weiniasant iddo.
Dechrau Pregethu yng Ngalilea
12A phan glywodd yr Iesu draddodi Ioan i garchar, efe a giliodd i Galilea. 13A chan adael Nasareth, efe a aeth ac a drigodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali, 14fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseia y proffwyd, gan ddywedyd:#Eseia 9:1, 2
15‘Tir Sabulon a thir Neffthali,
wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen,
Galilea’r Cenhedloedd.
16Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch,
a welodd oleuni mawr;
ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau,
y cyfododd goleuni iddynt.’
17O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, ‘Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.’
Galw’r Disgyblion Cyntaf
18Ac efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frawd, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgotwyr oeddynt. 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.’ 20A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant ef. 21Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac efe a’u galwodd hwy. 22Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a’u tad, a’i canlynasant ef.
Iacháu’r cleifion
23A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. 24Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, y rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a’r rhai cythreulig, a’r rhai lloerig, a’r sawl oedd a’r parlys arnynt; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 25A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea a Decapolis, a Jerwsalem a Jwdea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 4: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക