Mathew 27
27
Marwolaeth Jwdas
1A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 2Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith ac a’i traddodasant ef i Pontius Pilat y rhaglaw.
3Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddychwelodd y deg darn ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, 4gan ddywedyd, ‘Pechais, gan fradychu gwaed gwirion.’ Hwythau a ddywedasant, ‘Pa beth yw hynny i ni? Edrych di at hynny.’ 5Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.
6A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian ac a ddywedasant, ‘Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa, canys gwerth gwaed ydyw.’ 7Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. 8Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw. 9Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, ‘A hwy a gymerasant y deg darn a’r hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brisiwyd gan feibion Israel,#Jeremeia 32:6–9 10ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.’
Yr Iesu o flaen Pilat
11A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw. A’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, ‘Ai ti yw Brenin yr Iddewon?’ A’r Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Yr wyt ti yn dywedyd.’ 12A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. 13Yna y dywedodd Pilat wrtho, ‘Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?’ 14Ac nid atebodd efe iddo i un peth, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
15Ac ar yr ŵyl yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. 16A’r pryd hwnnw yr oedd ganddynt garcharor adnabyddus, a elwid Barabbas. 17Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, ‘Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas ai’r Iesu yr hwn a elwir Crist?’ 18Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19Ac efe yn eistedd ar y frawdle, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, ‘Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw, canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.’
20A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. 21A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi?’ Hwythau a ddywedasant, ‘Barabbas.’ 22Pilat a ddywedodd wrthynt, ‘Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist?’ Hwythau oll a ddywedasant wrtho, ‘Croeshoelier ef.’ 23A’r rhaglaw a ddywedodd, ‘Ond pa ddrwg a wnaeth efe?’ Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, ‘Croeshoelier ef.’
24A Pilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, ‘Dieuog ydwyf fi o waed y cyfiawn hwn. Edrychwch chwi at hynny.’ 25A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, ‘Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.’ 26Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt; ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio.
Y Milwyr yn Gwatwar yr Iesu
27Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r Praetoriwm, ac a gynullasant o’i gwmpas yr holl fintai. 28A hwy a’i diosgasant ef ac a roesant amdano fantell o ysgarlad. 29Ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a gwialen yn ei law ddeau; a hwy a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, ‘Henffych well, brenin yr Iddewon.’ 30A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y wialen, ac a’i trawsant ar ei ben. 31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio.
Y Croeshoeliad
32Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon. Hwn a orfodasant i ddwyn ei groes ef. 33A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, ‘Lle’r Benglog’, 34hwy a roesant iddo i’w yfed finegr yn gymysgedig â bustl; ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. 35Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren;#Salm 22:18 36a chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno. 37A gosodasant hefyd uwch ei ben ef y cyhuddiad yn ysgrifenedig: HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.
38Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y llaw ddeau ac un ar yr aswy. 39A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau, 40a dywedyd, ‘Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.’
41A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid a’r Phariseaid, a ddywedasant, 42‘Efe a waredodd eraill: ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, a ni a gredwn ynddo. 43Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef; canys efe a ddywedodd, “Mab Duw ydwyf.”’ 44Yr un modd hefyd yr edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef.
Yr Iesu’n Marw
45Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 46Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, ‘Eli, Eli, lama sabachthani?’ Hynny yw, ‘Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?’#Salm 22:1 47A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, ‘Y mae hwn yn galw am Elias.’ 48Ac yn y fan un ohonynt a redodd ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar wialen ac a’i diododd ef. 49A’r lleill a ddywedasant, ‘Paid, edrychwn a ddaw Elias i’w waredu ef.’
50A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ollyngodd ymaith yr ysbryd. 51Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered; a’r ddaear a siglwyd, a’r meini a holltwyd; 52a’r beddau a agorwyd, a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, 53ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.
54Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, ‘Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.’
55Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef. 56Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
Claddu’r Iesu ym Medd Joseff
57Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a ddaethai yntau yn ddisgybl i’r Iesu. 58Hwn a aeth at Pilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Pilat roddi’r corff. 59A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, 60ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
Gosod Gwyliadwriaeth
62A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl Dydd y Paratoad, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Pilat, 63gan ddywedyd, ‘Syr, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, “Wedi tridiau y cyfodaf.” 64Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, “Efe a gyfododd o feirw.” A bydd y twyll diwethaf yn waeth na’r cyntaf.’ 65A dywedodd Pilat wrthynt, ‘Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.’ 66A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 27: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക