Mathew 18
18
Y Mwyaf yn y Deyrnas
1Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, ‘Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?’
2A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt, 3ac a ddywedodd, ‘Yn wir y dywedaf i chwi, oddieithr eich troi chwi a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. 4Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. 5A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i.
Rhwystrau
6‘Ond pwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, gwell fyddai iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr. 7Gwae’r byd oblegid rhwystrau! Canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae’r dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr! 8Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith a thafl oddi wrthyt. Gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragwyddol. 9Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt. Gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.
Dameg y Ddafad Golledig
10‘Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn, canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 11Canys daeth Mab y dyn i gadw’r hyn a gollasid.
12‘Beth dybygwch chwi? Os bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod, oni ad efe y cant namyn un, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod? 13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y cant namyn un y rhai nid aethant ar ddisberod. 14Felly nid yw yn ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.
Brawd sy’n Pechu
15‘Ac os pecha dy frawd i’th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef o’r neilltu. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd. 16Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, “fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.”#Deuteronomium 19:15 17Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i’r eglwys. Ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis y cenedl‐ddyn a’r casglwr trethi.
18‘Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef. 19Yn wir, trachefn meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.’
Dameg y Gwas Anfaddeugar
21Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, ‘Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn ac y maddeuaf iddo? Ai hyd seithwaith?’
22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, hyd seithwaith, ond hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith. 23Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision. 24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau. 25A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef a’i wraig a’i blant, a chwbl a feddai, a thalu’r ddyled. 26A’r gwas a syrthiodd ar ei liniau o’i flaen, gan ddywedyd, “Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll.” 27Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo’r ddyled.
28‘Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog. Ac efe a ymaflodd ynddo ac a ddechreuodd ei lindagu, gan ddywedyd, “Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.” 29Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, “Bydd ymarhous wrthyf a mi a dalaf i ti.” 30Ac nis gwnâi efe, ond myned a’i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. 31A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt; a hwy a ddaethant ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai.
32‘Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, “Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi. 33Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?” 34A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenydwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.
35‘Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.’
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 18: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക

: