Mathew 17

17
Gweddnewidiad yr Iesu
1Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu. 2A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy, a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad a aeth yn wyn fel y goleuni. 3Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.
4A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, ‘O Arglwydd, da yw i ni fod yma; os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.’
5Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt; ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, ‘Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd. Gwrandewch arno ef.’
6A phan glywodd y disgyblion hynny, hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7A daeth yr Iesu ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, ‘Cyfodwch, ac nac ofnwch.’ 8Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, ‘Na ddywedwch am y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.’
10A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, ‘Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf?’ 11A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Elias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth. 12Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, ddyfod o Elias eisoes, ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant. Felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.’ 13Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
Iacháu Bachgen a Chythraul ynddo
14Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd o’i flaen ar ei liniau, ac a ddywedodd, 15‘Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig ac yn dioddef yn enbyd; canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 16Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef.’
17A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, ‘O genhedlaeth ddi‐ffydd a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y dioddefaf chwi? Dygwch ef yma ataf fi.’ 18A’r Iesu a’i ceryddodd ef, a’r cythraul a aeth allan ohono; a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno.
19Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, ‘Paham na allem ni ei fwrw ef allan?’ 20A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Oblegid eich anghrediniaeth; canys yn wir y dywedaf i chwi, pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, “Symud oddi yma draw”, ac efe a symudai; ac ni bydd dim amhosibl i chwi. 21Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.’
Rhagfynegi Eilwaith ei Farw a’i Atgyfodiad
22Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, ‘Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion. 23A hwy a’i lladdant, a’r trydydd dydd y cyfyd efe.’ A hwy a aethant yn drist iawn.
Talu Treth y Deml
24Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn treth y deml a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, ‘Onid yw eich athro chwi yn talu’r dreth?’ 25Yntau a ddywedodd, ‘Ydyw.’
Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd y blaen arno, gan ddywedyd, ‘Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? Gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear doll neu dreth? Gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?’ 26Pedr a ddywedodd wrtho, ‘Gan estroniaid.’ Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ‘Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion. 27Er hynny, rhag i ni beri rhwystr iddynt, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf. Ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian; cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.’

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 17: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക