Mathew 16
16
Ceisio Arwydd
1Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato, gan roddi prawf arno, hwy a ofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef.
2Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Pan fyddo’r hwyr y dywedwch, “Tywydd teg”, canys y mae’r wybr yn goch. 3A’r bore, “Heddiw drycin”, canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? 4Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi ond arwydd y proffwyd Jona.’ Ac efe a’u gadawodd hwynt ac a aeth ymaith.
Surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid
5Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i’r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt. 6A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.’ 7A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, ‘Ni chymerasom fara gyda ni.’
8A’r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, ‘Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain am na chymerasoch fara gyda chwi? 9Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? 10Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny? 11Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych am ochelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid?’ 12Yna y deallasant na ddywedasai efe am ochelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.
Cyffes Pedr
13Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, ‘Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?’ 14A hwy a ddywedasant, ‘Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Elias, ac eraill, mai Jeremeia neu un o’r proffwydi.’
15Efe a ddywedodd wrthynt, ‘Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?’ 16A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, ‘Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.’
17A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, ‘Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 18Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi. 19A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd; a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd, a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.’ 20Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu, y Crist.
Rhagfynegi ei Farwolaeth a’i Atgyfodiad
21O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
22A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti.’ 23Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Pedr, ‘Dos yn fy ôl i, Satan; rhwystr ydwyt ti i mi, am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.’
24Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, ‘Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. 25Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll; a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff. 26Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 27Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y rhydd efe i bob un yn ôl ei weithred. 28Yn wir y dywedaf wrthych, y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma, na phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.’
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 16: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക