Mathew 12
12
Arglwydd y Saboth
1Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd; ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. 2A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, ‘Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth.’
3Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef: 4pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ef fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i’r offeiriaid? 5Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Saboth yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? 6Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na’r deml. 7Ond pe gwybuasech beth yw hyn, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth”, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.#Hosea 6:6 8Canys Arglwydd ar y Saboth yw Mab y dyn.’
9Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt. 10Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, ‘Ai rhydd iacháu ar y Saboth?’ — fel y gallent ei gyhuddo ef. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac os syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur daioni ar y Saboth.’
13Yna y dywedodd efe wrth y dyn, ‘Estyn dy law.’ Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach fel y llall. 14Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
Wele fy Ngwasanaethwr
15A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll, 16ac a orchmynnodd iddynt na wnaent ef yn hysbys. 17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseia y proffwyd, gan ddywedyd:#Eseia 42:1–4
18‘Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais,
fy anwylyd yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon.
Gosodaf fy ysbryd arno,
ac efe a draetha gyfiawnder i’r Cenhedloedd.
19Nid ymryson efe, ac ni lefain,
ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20Corsen ysig nis tyr,
a lamp yn mygu nis diffydd,
hyd oni ddygo efe allan gyfiawnder i fuddugoliaeth.
21Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd.’
Yr Iesu a Beelsebwl
22Yna y dygwyd ato un cythreulig dall a mud; ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. 23A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, ‘Tybed ai hwn yw Mab Dafydd?’ 24Eithr pan glywodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant, ‘Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.’
25A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, ‘Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfanheddir, a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun. Pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 27Ac os trwy Beelsebwl yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? Am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 28Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch.
29‘Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? Ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 30Y neb nid yw gyda mi sydd yn fy erbyn, a’r neb nid yw yn casglu gyda mi sydd yn gwasgaru.
31‘Am hynny y dywedaf wrthych chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion; ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw.
Y Pren a’i Ffrwyth
33‘Naill ai gwnewch y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, ai gwnewch y pren yn ddrwg a’i ffrwyth yn ddrwg; canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 34O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? Canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. 35Y dyn da, o’i drysor da, a ddwg allan bethau da; a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. 36Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. 37Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.’
Arwydd y Proffwyd Jona
38Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, ‘Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt.’
39Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jona. 40Canys fel y bu Jona dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear. 41Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemniant hi, am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jona; ac wele fwy na Jona yma. 42Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemnia hi, am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon; ac wele fwy na Solomon yma.
43‘A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. 44Yna medd efe, “Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan.” Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. 45Yna y mae efe yn myned ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd arall gwaeth nag ef ei hun, ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.’
Mam a Brodyr yr Iesu
46Tra ydoedd efe yn dal i lefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 47A dywedodd un wrtho, ‘Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddiddan â thi.’
48Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, ‘Pwy yw fy mam i a phwy yw fy mrodyr i?’ 49Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, ‘Wele fy mam i a’m brodyr i. 50Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam.’
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 12: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക