Mathew 10
10
Y Deuddeg Apostol
1Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd.
2Ac enwau’r deuddeg apostol yw’r rhai hyn: y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 3Philip a Bartholomeus; Thomas a Mathew y casglwr trethi; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; 4Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef.
Cenhadaeth y Deuddeg
5Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, ‘Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i dref i’r Samariaid nac ewch i mewn. 6Eithr ewch yn hytrach at golledig ddefaid tŷ Israel. 7Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, “Mae teyrnas nefoedd wedi nesáu.” 8Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid. Derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.#10:8 Yn ôl rhai llsgrau ychwanegir ‘cyfodwch y meirw’. 9Na chymerwch aur, nac arian, na phres yn eich pyrsau, 10na chod i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau na ffyn; canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd.
11‘Ac i ba dref bynnag neu bentref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddo; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw neu o’r dref honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom a Gomorra yn nydd y farn nag i’r dref honno.
Erledigaeth
16‘Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17Eithr gwyliwch rhag dynion, canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch fflangellant chwi yn eu synagogau. 18A chwi a ddygir at lywodraethwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na phryderwch pa fodd neu pa beth a lefaroch; canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.
21‘A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn; a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22A chas fyddwch gan bawb oblegid fy enw i. Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23A phan y’ch erlidiant yn y dref hon, ffowch i un arall. Canys yn wir y dywedaf wrthych, na orffennwch drefi Israel, nes dyfod Mab y dyn.
24‘Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i feistr. 25Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei feistr. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu ef?
Pwy i’w Ofni
26‘Am hynny nac ofnwch hwynt. Oblegid nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir. 27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni; a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai. 28Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern. 29Oni werthir dau aderyn y to am ffyrling? Ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi. 30Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. 31Nac ofnwch gan hynny: yr ydych yn well na llawer o adar y to.
Cyffesu Crist
32‘Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 33A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
34‘Na thybiwch fy nyfod i ddwyn tangnefedd i’r ddaear: ni ddeuthum i ddwyn tangnefedd, ond cleddyf. 35Canys mi a ddeuthum i osod
“dyn yn erbyn ei dad,
a’r ferch yn erbyn ei mam,
a’r ferch‐yng‐nghyfraith yn erbyn ei mam‐yng‐nghyfraith”.#Micha 7:6
36A “gelynion dyn fydd aelodau ei dŷ ei hun.”
37Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi; a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. 38A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. 39Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll; a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.
40‘Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig, yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.’
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 10: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക