Luc 23
23
Gerbron Pilat
1A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Pilat. 2A hwy a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, ‘Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r genedl, ac yn gwahardd rhoi trethi i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.’
3A Philat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, ‘Ai ti yw Brenin yr Iddewon?’ Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, ‘Yr wyt ti yn dywedyd.’ 4A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, ‘Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.’ 5A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, ‘Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma.’
Yr Iesu gerbron Herod
6A phan glywodd Pilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr; canys yr oedd efe yn chwennych ers talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef, ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn egnïol. 11A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef a’i watwar a’i wisgo â gwisg ysblennydd, a’i danfonodd ef drachefn at Pilat. 12A’r dwthwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion, canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.
Cymryd Lle Barabbas
13A Philat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid a’r llywiawdwyr a’r bobl, 14a ddywedodd wrthynt, ‘Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl. Ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt. 15Na Herod chwaith, canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed ganddo. 16Am hynny mi a’i cosbaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith.’ 17Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl.
18A’r holl liaws a lefasant ynghyd, gan ddywedyd, ‘Ymaith â hwn, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd — ’ 19yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar. 20Am hynny Pilat a’u hanerchodd drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.
21Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, ‘Croeshoelia, croeshoelia ef.’ 22Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, ‘Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo. Am hynny mi a’i cosbaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd.’ 23Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25Ac efe a ollyngodd yn rhydd yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant. Eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt.
Croeshoelio’r Iesu
26Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, ac yntau yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, ‘Ferched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i, eithr wylwch o’ch plegid eich hunain ac oblegid eich plant. 29Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod yn y rhai y dywedant, “Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn.” 30Yna y dechreuant
“ddywedyd wrth y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnom’,
ac wrth y bryniau, ‘Cuddiwch ni.’ ”#Hosea 10:8
31Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?’
32Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau arall, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr: un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34A’r Iesu a ddywedodd, ‘O Dad, maddau iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.’ A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, ‘Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun os hwn yw Crist, etholedig Duw.’ 36A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37a dywedyd, ‘Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun.’ 38Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg a Lladin a Hebraeg: HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablai ef, gan ddywedyd, ‘Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau.’ 40Eithr y llall a atebodd ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, ‘Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le.’ 42Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, ‘Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas.’ 43A’r Iesu a ddwedodd wrtho, ‘Yn wir meddaf i ti, heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.’
Marwolaeth yr Iesu
44Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 45A’r haul a dywyllwyd a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol. 46A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, ‘O Dad, i’th ddwylo di y cyflwynaf fy ysbryd.’ Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.#Salm 31:5
47A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, ‘Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.’ 48A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i wylio’r olygfa hon, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau. 49A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
Claddu’r Corff ym Medd Joseff
50Ac wele, yr oedd gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn 51(hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt) o Arimathea, un o drefi’r Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw. 52Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. 54A’r dydd hwnnw oedd ddydd Paratoad, a’r Saboth oedd yn nesáu.
55A’r gwragedd y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56A hwy a ddychwelasant ac a baratoesant beraroglau ac ennaint, ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Luc 23: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക